Themâu
Mae ein ymchwil wedi'i strwythuro ar draws pedair thema:
Mae ein thema ymchwil yn drawsddisgyblaethol ac yn drawsbroffesiynol ac mae'n canolbwyntio ar ddatblygu dealltwriaeth o'r ffactorau biolegol, seicolegol a chymdeithasol sy'n effeithio ar ganlyniadau iechyd pobl sy'n byw gyda chyflyrau iechyd cymhleth.
Rydyn ni’n profi defnyddioldeb theorïau a modelau cymhwysol i gyflyrau iechyd ac yn edrych ar brofiadau pobl sy'n byw gyda chyflyrau cymhleth, hirdymor a'r rhai sy'n gofalu amdanyn nhw. Rydyn ni hefyd yn datblygu ac yn profi ymyriadau i wella rheolaeth, cefnogaeth ac ansawdd bywyd pobl sy'n byw gyda chyflyrau cymhleth, hirdymor.
Portffolio ymchwil
Mae ein portffolio ymchwil ar hyn o bryd yn ymdrin â'r canlynol:
- deall y ffactorau risg ymddygiadol/ffordd o fyw sy'n gysylltiedig â chyflyrau tymor hir ac sy'n cyfyngu ar fywyd a chefnogi pobl i hunan-reoli'r cyflyrau hynny
- profi ymyriadau i gyfyngu'r effaith ar bobl sy'n byw gyda chyflyrau tymor hir gan gynnwys canser, dementia, cyflyrau croen a chymalau llidiol
- Gwerthuso darpariaeth gofal ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar y claf yn y gymuned a'r ysbyty i bobl sy'n byw gyda chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd a'u teuluoedd
- Edrych ar ddulliau newydd o gefnogi menywod a theuluoedd yn ystod beichiogrwydd a geni plant.
Arbenigedd a chydweithio
Yng nghyd-destun ymchwil y byd real mae gennyn ni aelodau gydag arbenigedd mewn methodoleg ansoddol, feintiol a chymysg. Mae gan ein tîm brofiad o ymchwil cydweithredol aml-broffesiynol sy'n cynnwys seicoleg iechyd, meddygaeth, bydwreigiaeth, nyrsio, therapi galwedigaethol a ffisiotherapi.
Mae gennyn ni enw da rhyngwladol am ragoriaeth gyda chysylltiadau cydweithredol y tu hwnt i Gymru, yn y DU, mewn canolfannau allweddol yn yr UE ac yn fyd-eang. Mae ein hymchwil yn arddangos ymarfer gorau o ran ymwneud â chleifion a'r cyhoedd.
Mae ein haelodau'n ymgysylltu'n weithredol gyda pholisi iechyd, datblygu strategaeth, ac arloesi clinigol ac addysgol yng Nghymru a thu hwnt.
Mae'r grŵp ymchwil hefyd yn cynnig cymorth gan gymheiriaid, arweiniad ymarferol ac yn ymrwymo i adeiladu capasiti a gallu mewn ymchwil gofal iechyd. Bydd gweithio gyda ni'n eich helpu i ddatblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau ymhellach, gan gynnig cyfleoedd i chi ddod yn fwy gweithredol wrth ymchwilio.
Arweinydd thema
Dirprwy arweinydd thema
Prosiectau ymchwil cyfredol
Rydyn ni’n canolbwyntio ar ddeall ffyrdd cyfredol a ffyrdd sy'n ymddangos o’r newydd o drefnu a chyflenwi gofal, ac ar ddefnyddio'r wybodaeth hon i wella profiadau pobl sy'n defnyddio ac yn gweithio mewn gwasanaethau.
Mae ein thema ymchwil yn cyfuno’r dulliau a nodir isod er mwyn ymchwilio i gyflenwi gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a’u trefnu, a hynny o sawl safbwynt: cyfosod tystiolaeth, ymchwil ansoddol, ymchwil meintiol, ac astudiaethau dulliau cymysg. Caiff ein hymchwil ei llywio gan y ddealltwriaeth mai system gymhleth yw cyflenwi gwasanaethau gofal, a thrwy weithio ar y cyd â chydweithwyr, ein nod yw cynhyrchu canfyddiadau a fydd yn llywio gwelliannau a wneir yn y ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol yn uniongyrchol.
Portffolio ymchwil
Mae ein portffolio ymchwil ar hyn o bryd yn ymdrin â'r canlynol:
- datblygiadau arloesol yn y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol ac effaith y rhain ar staff, defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr
- modelau newydd o ddarparu gofal ac ymagweddau newydd at ymarfer
- gwell systemau diogelwch i gleifion
- profiadau cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr
Mae ein prosiectau'n cynnwys cydweithio rhyngddisgyblaethol gydag ymarferwyr ac ymchwilwyr iechyd a gofal cymdeithasol o Brifysgol Caerdydd ac o ledled Prifysgolion sy'n rhagorol yn rhyngwladol yn y DU ac yn fyd-eang.
Arbenigedd a chydweithio
Mae gan ein staff ymchwil gefndiroedd mewn ymarfer gofal iechyd proffesiynol, gan dynnu ar amrywiaeth eang o ymagweddau ansoddol, meintiol a dulliau cymysg, ac yn cael eu llywio gan ddamcaniaethau a syniadau o feysydd iechyd, rheolaeth a'r gwyddorau cymdeithasol.
Gan ein bod yn ymchwilwyr, rydyn ni'n ymrwymedig i ymgysylltu’n ystyrlon gyda'r holl grwpiau rhanddeiliaid, gan gynnwys pobl sy'n defnyddio gwasanaethau yn ogystal â'r rheini sy'n arwain, yn rheoli ac yn darparu gofal wyneb-yn-wyneb.
Mae ein haelodau'n ymgysylltu'n weithredol gyda pholisi iechyd, datblygu strategaeth, arloesi clinigol ac addysgol yng Nghymru a thu hwnt.
Rydyn ni wedi’n hymrwymo i gymorth cymheiriaid a mentora, ac adeiladu capasiti a gallu yn y rhwydwaith ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol.
Ceisiadau PhD
Croesawir ceisiadau PhD ar amrywiaeth o bynciau. Dylai ceisiadau ymdrin yn uniongyrchol â phwnc ymchwil a ddynodir gan oruchwylwyr y thema. Mae pynciau wedi’u nodi ar broffiliau gwe’r goruchwylwyr. Mae ceisiadau nad ydyn nhw’n ymdrin â dewis bwnc y goruchwyliwr ar gyfer goruchwylio yn annhebygol o fod yn llwyddiannus.
Gwnewch gais am PhD mewn Gwyddorau Gofal Iechyd
Arweinwyr y themâu
Dr Nicola Evans
Darllennydd: Iechyd Meddwl , Anableddau Dysgu a Gofal Seicogymdeithasol
- evansng@caerdydd.ac.uk
- +44(0) 29 206 87298
Prosiectau ymchwil cyfredol
Rydyn ni’n cynnal ymchwil cymhwysol sy'n ceisio galluogi a hyrwyddo byw’n iach i'r rhai sy'n dioddef o amrywiaeth o gyflyrau, afiechydon ac anafiadau acíwt a chronig.
Mae ein thema ymchwil yn defnyddio dull rhyngddisgyblaethol i ddatblygu gwell dealltwriaeth o opsiynau iechyd a gofal, ar y cyd â hyrwyddo ffyrdd iach o fyw. Mae hyn yn cynnwys ymchwil sylfaenol i astudio'r mecanweithiau sydd wrth wreiddiau cyflyrau iechyd, datblygu ymyriadau i drosi datblygiadau mewn dealltwriaeth sylfaenol yn driniaethau newydd, a threialon clinigol i brofi ymyriadau.
Mae ein hymchwil sylfaenol yn canolbwyntio ar fiofecaneg a niwroffisioleg, ac yn defnyddio technolegau blaengar gan gynnwys recordio symudiadau optoelectroneg a seiliedig ar synhwyrydd, melinau traed wedi’u hofferynnu a gwrth-ddisgyrchiant, electromyograffeg arwyneb deubegynol a dwysedd uchel, symbylu’r nerf berifferol, symbylu magnetig trawsgreuanol ac electroenceffalograffi. Rydyn ni’n datblygu ac yn gwerthuso asesiadau clinigol, ymyriadau a thechnolegau newydd i wella rhwystro a rheoli cyflyrau iechyd gydol oes. Mae dulliau o fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd wedi'u gwreiddio yn ein hymchwil.
Portffolio ymchwil
Mae ein tîm uchel ei sgiliau'n gweithio ar draws proffesiynau iechyd cyswllt a bydwreigiaeth gyda phrofiad mewn ymchwil ansoddol, meintiol a dulliau cymysg. Mae ein hymchwil yn cynnwys datblygu a phrofi ymyriadau cymhleth a deall mecanweithiau clefydau a thriniaeth. Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda grwpiau defnyddwyr ac elusennau i wneud y gorau o ymgysylltu ac effaith.
Mae meysydd ymchwil cyfredol yn canolbwyntio ar y canlynol:
- asesiadau biofecanyddol o unigolion gyda chyflyrau cyhyrysgerbydol i ddeall mecanweithiau clefyd a thriniaeth.
- datblygu ymyriadau sy’n canolbwyntio ar gefnogi hunanreolaeth a gweithgaredd corfforol ar gyfer unigolion â chyflyrau hirdymor – mae hyn ar gyfer oedolion a phlant sydd â phoen cyhyrysgerbydol, anhwylderau cardiorespiradol neu gyflyrau niwrolegol
- profi diogelwch, effeithiolrwydd clinigol a/neu gost ymyriadau newydd yng ngofal mamolaeth a beichiogrwydd
- Edrych ar ddefnydd o dechnoleg ddigidol mewn lleoliadau adsefydlu a chartref i gyfoethogi technegau asesu a thriniaeth
Cydweithio
Mae ein haelodau'n ymgysylltu'n weithredol gyda pholisi iechyd, datblygu strategaeth, arloesi clinigol ac addysgol yng Nghymru a thu hwnt. Mae gennyn ni brosiectau cydweithredol ym mhob rhan o’r DU ac mewn canolfannau allweddol yn yr UE ac yn fyd-eang.
Mae aelodau o'r thema ymchwil yn ymrwymo i gymorth cymheiriaid a mentora, ac adeiladu capasiti a gallu yn y rhwydwaith ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol.
Ceisiadau PhD
Croesawir ceisiadau PhD ar bynciau sy'n ymdrin yn benodol â diddordebau ymchwil aelodau'r thema. Rydyn ni'n annog myfyrwyr PhD a doethuriaeth broffesiynol i fod yn gyfranogwyr gweithredol at y thema ymchwil drwy gyflwyno eu hymchwil a dod i ddigwyddiadau thema.
Gwnewch gais am PhD mewn Gwyddorau Gofal Iechyd