Ewch i’r prif gynnwys

Pwyllgor Moeseg Ymchwil yr Ysgol

Man being monitored whilst exercising to study it's effect on degenerative mental disease.

Mae gwaith ymchwil lle mae pobl yn cymryd rhan, neu sy’n cynnwys deunydd neu ddata dynol, yn destun adolygiad ffurfiol o ran moeseg, ac yn cael cymeradwyaeth cyn y gellir dechrau ar waith o’r math hwnnw.

Mae’r Pwyllgor Moeseg Ymchwil yn gyfrifol am roi cymeradwyaeth foesegol ar gyfer gwaith ymchwil sydd ddim yn glinigol lle mae pobl yn cymryd rhan, sy’n cynnwys deunydd neu ddata. Mae hyn yn berthnasol i’r canlynol:

  • holl brosiectau myfyrwyr PhD a Doethuriaeth Broffesiynol
  • aelodau o staff sy'n gwneud gwaith ymchwil sydd ddim angen cymeradwyaeth foesegol gan yr Awdurdod Ymchwil Iechyd (HRA)
  • Myfyrwyr Meistr (ac eithrio MSc Ymarfer Uwch)
  • aelodau o staff sy'n gwneud gwaith ymchwil sydd ddim angen cymeradwyaeth foesegol gan yr Awdurdod Ymchwil Iechyd (HRA).

Bydd y Pwyllgor hefyd yn goruchwylio'r gwaith o weinyddu prosiectau ymchwil israddedig.

Mae holl ddogfennau a gweithdrefnau’r pwyllgor moeseg ar gyfer gwneud cais am gymeradwyaeth moeseg ymchwil yr ysgol ar gael ar Dysgu Canolog o dan mudiadau - y modiwl Postgraduate Learning Central - School Research Ethics y ddewislen ar y chwith.

Dyddiadau cyflwyno a dyddiadau’r cyfarfodydd

Bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal bob mis ac mae’n rhaid i geisiadau gael eu cyflwyno tair wythnos cyn dyddiad y cyfarfod er mwyn bod digon o amser iddyn nhw gael eu hadolygu.

Bydd y cyfarfodydd yn cael eu cynnal dydd Mawrth cyntaf bob mis.

Adolygiad risg is

Gall prosiectau sy'n cael eu hystyried yn risg isel fod yn gymwys i gael adolygiad rig is. Os bydd eich prosiect yn gymwys, bydd yn cael ei ystyried y tu hwnt i’r cyfarfod a’r dyddiadau cyflwyno ar gyfer y pwyllgor moeseg lawn. Mae’r meini prawf gwirio bod eich prosiect yn gymwys ar gael yn adran 4 o ffurflen gais moeseg ymchwil yr ysgol. Bydd ceisiadau moeseg sy'n cael eu rheoli yn yr adolygiad risg is yn dal i dderbyn 2 adolygiad moesegol a gwerthusiad gan y cadeirydd / person enwebedig.

Canlyniad penderfyniad yr adolygiad moeseg

Caiff y cais a sylwadau’r prif adolygydd eu hystyried gan y Pwyllgor neu/a’r Cadeirydd neu’r person sydd wedi cael eu henwebu ar gyfer yr adolygiad risg is. Bydd yr ymgeisydd yn derbyn penderfyniad o fewn 5 diwrnod gwaith o ddyddiad y cyfarfod, neu gwblhau’r adolygiadau risg is.

Gall argymhellion y pwyllgor gynnwys:

  • Barn foesegol ffafriol.
  • Barn foesegol ffafriol, yn amodol ar amodau a bennir gan y pwyllgor neu'r adolygwyr.
  • Barn dros dro yn amodol ar y pwyllgor sy’n derbyn ac yn adolygu gwybodaeth ychwanegol.
  • Barn Anffafriol.

Dim ond ar ôl cael cymeradwyaeth foesegol bydd gwaith ymchwil ar brosiectau’n cael dechrau.

Cymeradwyaeth foesegol

Cewch wybodaeth ynghylch cymeradwyaeth foesegol ar gyfer gwaith ymchwil glinigol lle mae pobl yn cymryd rhan, syn cynnwys deunydd a/neu ddata gan Awdurdod Ymchwil Iechyd y GIG. Os ydych chi’n gwneud cais i’r HRA am gymeradwyaeth, bydd angen i chi ddarllen y wybodaeth llywodraethu ymchwil ar y tudalennau gwe yn gyntaf.

Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch a

Pwyllgor Moeseg Gwyddorau Gofal Iechyd