Ewch i’r prif gynnwys

WISH: Arolwg Mewnwelediadau Iechyd yn y Gweithle

Datblygu arolwg i ddysgu mwy am y materion sy'n effeithio ar iechyd a lles myfyrwyr sy'n astudio Nyrsio, Bydwreigiaeth ac Iechyd Perthynol.

Trosolwg o’r mater

Mae gweithwyr proffesiynol ym meysydd nyrsio, bydwreigiaeth ac iechyd perthynol (NMAHPs) yn arbennig o agored i ffactorau amgylcheddol, seicolegol a chymdeithasol sy'n gysylltiedig â mwy o dueddiad i broblemau iechyd meddwl a salwch cyhyrysgerbydol sy'n gysylltiedig â'u maes gwaith.

Dulliau

Bydd y prosiect yn darparu cyllid ar gyfer Cynorthwyydd Ymchwil Ôl-ddoethurol (PDRA) i ddatblygu, llywio a dilysu arolwg sy'n asesu gweithgaredd corfforol, ffordd o fyw, paratoadau corfforol, anafiadau cyhyrysgerbydol, iechyd meddwl, lles a salwch myfyrwyr nyrsio, bydwreigiaeth ac iechyd perthynol cyn-gofrestru. Bydd tua 300 o fyfyrwyr cyn-gofrestru o Brifysgol Caerwysg (Nyrsio a Delweddu Meddygol) a Phrifysgol Caerdydd (Ffisiotherapi,Therapi Galwedigaethol, Nyrsio, Bydwreigiaeth, Radiograffeg Ddiagnostig, a Radiotherapi) yn cymryd rhan yn y rhaglen dreialu hon.

Effaith

Wedi iddo gael ei ddatblygu, bydd yr arolwg yn cael ei roi ar waith yn genedlaethol, gan ddilyn myfyrwyr gydol eu gyrfa, er mwyn creu’r set ddata NMAHP fwyaf yn y DU. Bydd yn cynnwys y ffactorau hynny sy'n dylanwadu ar gadw staff ac iechyd cyffredinol y gweithlu, gan lywio datblygu ymyrraeth a llunio polisïau yn y pen draw at ddibenion gwella lles staff.

Cyllid

Ariennir y prosiect hwn gan Gynghrair GW4

Prif ymchwilydd

Picture of Rebecca Hemming

Rebecca Hemming

Uwch Ddarlithydd: Ffisiotherapi

Telephone
+44 29206 88599
Email
HemmingRL@caerdydd.ac.uk

Thema’r ymchwil

Nurse and patient holding hands

Cyflyrau tymor hir

Rydyn ni’n ceisio optimeiddio lles mewn iechyd a salwch pobl yng Nghymru a thu hwnt y mae cyflyrau cronig a chyflyrau sy'n cyfyngu ar eu bywydau yn effeithio arnyn nhw.