Ewch i’r prif gynnwys

Cydnabod y ffactorau sy'n dylanwadu ar y nifer sy'n cael brechiad HPV ym Mwlgaria, Croatia a Rwmania

Os bydd 80% o fechgyn a merched yn cael brechiad, mae’n bosibl y caiff HPV ei ddileu’n llwyr.

Mae'r feirws papiloma dynol (HPV) yn gysylltiedig â bron pob achos o ganser ceg y groth, 90% o ganserau yr anws, a chanran sylweddol o ganser oroffaryngeaidd, y pidyn, gwain a'r fwlfa.

Fodd bynnag, os bydd 80% o ddynion a merched yn eu harddegau yn cael brechiad HPV, gellir osgoi’r rhan fwyaf o ganserau sy’n gysylltiedig â HPV drwy ymgyrchoedd sgrinio a brechu. Yn anffodus, mae gwledydd yn methu â chyrraedd y nod hwn.

Ar hyn o bryd mae gan Rwmania, Bwlgaria a Croatia gyfraddau derbyn isel iawn o'r brechiad, er bod newidiadau diweddar wedi gwella mynediad. Mae dealltwriaeth i'r ffactorau sy'n hybu ac yn rhwystro'r nifer sy'n cael y brechiad HPV yn y gwledydd hyn yn hollbwysig.

Fel tîm, rydyn ni wedi gwneud gwaith yn y maes hwn eisoes ac rydyn ni wedi ein gwahodd a'n hariannu, gan Sefydliad Canser Ewrop, i nodi a chynnal adolygiad o'r holl ymchwil presennol ar y nifer sy'n derbyn brechiad HPV ym mhob un o'r tair gwlad hyn. Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda thîm o randdeiliaid allweddol ym mhob gwlad i sicrhau bod gyda ni ddealltwriaeth fanwl o'r cyd-destunau lleol.

Gyda'n gilydd, bydd y gwaith hwn yn ein galluogi i wneud argymhellion a fydd yn llywio strategaethau'r dyfodol i gynyddu cyfran y bobl ifanc sy'n derbyn y brechiad HPV.

Cyllid

Mae'r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan Sefydliad Canser Ewrop (ECO), Gwlad Belg.

Prif ymchwilydd

Picture of Clare Bennett

Dr Clare Bennett

Darllenydd mewn Gwella Iechyd

Telephone
+44 29225 10818
Email
BennettCL3@caerdydd.ac.uk

Thema’r ymchwil

Nurse and patient holding hands

Cyflyrau tymor hir

Rydyn ni’n ceisio optimeiddio lles mewn iechyd a salwch pobl yng Nghymru a thu hwnt y mae cyflyrau cronig a chyflyrau sy'n cyfyngu ar eu bywydau yn effeithio arnyn nhw.