Ewch i’r prif gynnwys

Defnyddio grwpiau WhatsApp dan arweiniad cyfoedion i rannu gwybodaeth am risg canser y prostad

Bydd yr ymchwil hon yn trin a thrafod defnyddio grwpiau WhatsApp dan arweiniad cyfoedion i rannu gwybodaeth am risg canser y prostad mewn ffordd ddiogel rhwng dynion du, lle mae risg y bydd 1 ym mhob 4 ohonyn nhw yn datblygu canser y prostad yn ystod eu hoes.

Y Cefndir

Canser y prostad yw'r ail ganser mwyaf cyffredin ymhlith dynion ledled y byd a’r pumed prif achos o farwolaeth o ganser ymhlith dynion. Mae dynion sydd â hanes teuluol o ganser y prostad neu ddynion ag ethnigrwydd du yn wynebu risg uwch, ac yn aml yn datblygu'r clefyd yn iau. Mae statws economaidd-gymdeithasol hefyd yn dylanwadu ar risg canser, gyda nifer uwch o achosion o ganser mewn ardaloedd difreintiedig, lle mae llawer o unigolion du a lleiafrifoedd ethnig yn byw.

Canfod canser yn gynnar

Mae canfod canser yn gynnar yn gwella’r opsiynau o ran triniaeth a chyfraddau goroesi, ond mae cyfraddau canfod yn y DU yn isel, yn enwedig ymhlith dynion du. Mae Ymchwil Canser y DU yn cefnogi ymchwil i ddod o hyd i ffyrdd o ganfod canser yn gynharach drwy ymgysylltu â'r cyhoedd a defnyddio technolegau newydd.

Ymchwil

Bydd yr astudiaeth beilot hon yn trin a thrafod defnyddio grŵp WhatsApp dan arweiniad cyfoedion i rannu gwybodaeth am risg canser y prostad ymhlith dynion du, gyda'r nod o ddod o hyd i ffordd o wella canfod canser yn gynnar, a gwneud diagnosis, trwy rannu gwybodaeth am risg yn y gymuned. Mae gwaith blaenorol gyda dynion du yn awgrymu bod cyfathrebu dan arweiniad cyfoedion yn effeithiol. Bydd yr astudiaeth yn gwerthuso pa mor dderbyniol, hygyrch a diogel yw defnyddio WhatsApp at y diben hwn, gan wella cyfathrebu ynglŷn â sgrinio canser yn y dyfodol.

Cyllid

Mae’r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan Ymchwil Canser y DU.

Prif Ymchwilydd

Picture of Sarah Fry

Dr Sarah Fry

Uwch Ddarlithydd: Nyrsio Oedolion

Telephone
+44 29206 87724
Email
FryS4@caerdydd.ac.uk

Thema’r ymchwil

Nurse and patient holding hands

Cyflyrau tymor hir

Rydyn ni’n ceisio optimeiddio lles mewn iechyd a salwch pobl yng Nghymru a thu hwnt y mae cyflyrau cronig a chyflyrau sy'n cyfyngu ar eu bywydau yn effeithio arnyn nhw.