Ewch i’r prif gynnwys

Blaenoriaethau ymchwil yn y DU ar Anhwylder Cydlynu Datblygiadol (DCD)

Gan weithio gyda rhanddeiliaid, byddwn ni’n cyd-greu rhestr o 10 o’r prif flaenoriaethau ymchwil ar Anhwylder Cydlynu Datblygiadol (DCD), gan sicrhau bod ymchwil yn y dyfodol yn berthnasol ac yn fuddiol.

Pwysigrwydd blaenoriaethau ymchwil

Mae gosod blaenoriaethau ymchwil yn sicrhau bod adnoddau prin yn cael eu defnyddio’n effeithlon, a bod ymdrechion yn cael eu cyfeirio tuag at y meysydd mwyaf effeithiol. Er bod blaenoriaethau ymchwil yn bodoli ar gyfer rhai anhwylderau niwroddatblygiadol, nid oes unrhyw un wedi'u gosod yng nghyd-destun Anhwylder Cydlynu Datblygiadol (DCD) yn y DU.

Anhwylder Cydlynu Datblygiadol (DCD)

Mae DCD yn gyflwr gydol oes sy'n effeithio ar tua 2-6% o blant yn y DU, gyda 70% yn profi anawsterau modur sylweddol pan fyddan nhw’n oedolion. O ystyried pa mor gyffredin ydyw, ceir angen brys i anelu ymdrechion ymchwil tuag at fynd i'r afael ag anghenion y rheiny y mae’r anhwylder yn effeithio arnyn nhw.

Yr angen am flaenoriaethau

Os nad yw blaenoriaethau ymchwil wedi’u gosod, efallai na fydd ymdrechion yn diwallu anghenion yr unigolion hynny sy’n dioddef o DCD, ymarferwyr, cyllidwyr na llunwyr polisi. Bydd pennu'r blaenoriaethau hyn yn sicrhau bod cyllid ac ymchwil yn y dyfodol yn cynhyrchu canlyniadau sy’n ystyrlon ac yn gymwys.

Dull Cynghrair James Lind (JLA)

Mae'r JLA, menter di-elw yn y DU, yn cynnig proses strwythuredig at ddibenion pennu blaenoriaethau ymchwil. Ynghlwm wrth yr hyn yw dod ag unigolion â phrofiadau bywyd o’r anhwylder, gofalwyr, ymarferwyr a rhanddeiliaid eraill at ei gilydd i fod yn bartneriaid cydradd yn y broses o gyd-greu rhestr o 10 o’r prif flaenoriaethau ymchwil.

Nodau ein Prosiect

Ein nod yw defnyddio’r Dull JLA er mwyn:

  • nodi'r ansicrwydd a'r cwestiynau heb eu hateb y mae rhanddeiliaid yn eu hwynebu
  • blaenoriaethu'r 10 cwestiwn ymchwil pwysicaf yn achos y DU
  • annog cyllidwyr, ymchwilwyr a lunwyr polisi i alinio eu hymdrechion â'r blaenoriaethau dan sylw

Byddwn ni’n ymgysylltu â’r unigolion a ganlyn: academyddion sy’n ymchwilio i DCD yn y DU; plant sy’n dioddef o DCD a'u teuluoedd/gofalwyr; darparwyr addysg; oedolion sy’n dioddef o DCD; sefydliadau'r trydydd sector; ynghyd â gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Byddwn ni’n gwneud hyn er mwyn sicrhau proses gynhwysfawr a chynhwysol.

Cyllid

Ariennir y prosiect hwn gan Sefydliad Waterloo.

Prif ymchwilydd

Picture of Catherine Purcell

Dr Catherine Purcell

Darllenydd: Therapi Galwedigaethol

Telephone
+44 29225 10961
Email
PurcellC2@caerdydd.ac.uk

Thema’r ymchwil

Nurse and patient holding hands

Cyflyrau tymor hir

Rydyn ni’n ceisio optimeiddio lles mewn iechyd a salwch pobl yng Nghymru a thu hwnt y mae cyflyrau cronig a chyflyrau sy'n cyfyngu ar eu bywydau yn effeithio arnyn nhw.