Staffio diogel yn y gwasanaethau iechyd meddwl
Cafodd y gwaith hwn ei gomisiynu gan GIG Lloegr er mwyn rhoi ciplun sydyn inni ar y dystiolaeth ymchwil gyfredol ar y lefelau staff nyrsio iechyd meddwl a’r cymysgedd o ran eu sgiliau yn y gwasanaethau iechyd meddwl.
Er mwyn cyflawni hyn, ein bwriad yw dod o hyd i lenyddiaeth ymchwil, ei chasglu ynghyd ac ymchwilio iddi, ynghyd â’r dystiolaeth ehangach, i gyd wedi’u seilio o amgylch dau gwestiwn ymchwil.
Cwestiwn 1:
Beth mae’r dystiolaeth gyfredol yn ei dweud wrthym am yr effaith y mae’r cymysgedd o sgiliau ymhlith nyrsys iechyd meddwl yn ei chael ar y gwasanaethau iechyd meddwl a chanlyniadau i’r cleifion?
Cwestiwn 2:
Beth mae’r dystiolaeth ar hyn o bryd yn ei dweud wrthym am yr effaith y mae modelau cyfredol o ran lleoli nyrsys iechyd meddwl yn ei chael ar gefnogi'r ddarpariaeth o roi gofal diogel ac effeithlon i gleifion ledled y gwasanaethau iechyd meddwl?
Unwaith y byddwn wedi adolygu'r llenyddiaeth, awn ati i gyhoeddi'r canfyddiadau, fel y gellir defnyddio'r wybodaeth hon at ddibenion llunio cynlluniau a pholisïau gwasanaethau iechyd meddwl yn y dyfodol.
Rydyn ni eisoes wedi cyhoeddi'r protocol adolygu ar wefan y Fframwaith Gwyddoniaeth Agored (OSF). Bydd y canfyddiadau'n cael eu cyhoeddi ar wefan GIG Lloegr ar ôl cwblhau'r adolygiad.
Cyllid
Ariennir y prosiect hwn gan GIG Lloegr.
Prif ymchwilwyr
Dr Dean Whybrow
Darlithydd: Nyrsio Iechyd Meddwl (Addysgu ac Ymchwil)