PRO-JUDGE: Barn Broffesiynol Nyrsys mewn Systemau Staffio Nyrsys yng Nghymru a Lloegr
Bob dydd mewn lleoliadau gofal iechyd ar draws y byd, gwneir penderfyniadau ynghylch a oes digon o nyrsys ar gael i ddiwallu anghenion cleifion. Sut bydd y penderfyniadau hyn yn cael eu gwneud?
Yn dilyn ymchwil ar fethiannau gofal mewn ysbytai, adnabuwyd yr angen i ddatblygu gwell systemau i gefnogi'r broses o wneud penderfyniadau am lefelau staffio nyrsys.
Am beth oedd yr astudiaeth Pro-Judge?
Mae sicrhau bod digon o nyrsys ar gael i ofalu am gleifion yn bryder polisi pwysig mewn sawl gwlad. Mae ymchwil wedi dangos perthynas rhwng lefelau staffio nyrsys is a deilliannau gwaeth i gleifion. Ceir llawer o systemau gwahanol yn rhyngwladol i gefnogi’r gwaith o gynllunio ar gyfer y gweithlu a’r staff. Mae'r rhain fel arfer yn cynnwys technolegau amserlennu staff, offer asesu llwyth gwaith ffurfiol, data am ddeilliannau cleifion a barn broffesiynol.
Ceir corff sylweddol o ymchwil am yr offer ffurfiol a ddefnyddir mewn systemau staffio, ond ychydig iawn a wyddom am farn broffesiynol a'i heffaith ar y gwaith o wneud penderfyniadau. Nod Pro-Judge oedd mynd i'r afael â'r bwlch hwn yn ein dealltwriaeth.
Beth wnaethon ni?
Rhwng Ionawr 2021 a Mawrth 2023, canolbwyntiodd yr astudiaeth ar dair Ymddiriedolaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Lloegr a thri Bwrdd Iechyd Prifysgol yng Nghymru.
Cynhaliwyd cyfweliadau ag unigolion allweddol a oedd yn ymwneud â'r systemau staffio nyrsys, arsylwyd cyfarfodydd staffio a dadansoddwyd dogfennau, offer a thechnolegau ffurfiol. Cynhaliwyd nifer gyfyngedig o arsylwadau mewn meysydd clinigol hefyd er mwyn deall y rhain yn well. Cyfunwyd y data hwn i ddadansoddi rôl barn broffesiynol mewn systemau staffio ym mhob achos.
Beth ddysgon ni?
Ar adeg yr astudiaeth, nid oedd gan yr un o'r achosion ddigon o staff i gyflawni’r amserlenni staffio a fwriadwyd. Barn broffesiynol nyrsys clinigol ac uwch-reolwyr nyrsio, yn hytrach na systemau ffurfiol, oedd yn ganolog i’r penderfyniadau gweithredol i reoli risg a sicrhau gofal diogel.
Adolygwyd y lefelau staffio sydd eu hangen i roi meysydd clinigol ar waith yn rheolaidd ddwywaith y flwyddyn. Mewn adolygiadau rheolaidd o lefelau staffio, rhoddwyd pwys sylweddol ar lefelau staffio, effeithlonrwydd, diogelwch a data 'caled' wrth wneud penderfyniadau. Roedd nyrsys o'r farn nad oedd y data yn dal agweddau pwysig ar safon y gofal a lles y staff. O ganlyniad, roedd nyrsys yn ei chael hi'n anodd mynegi eu barn broffesiynol a dylanwadu ar benderfyniadau ar lefel y bwrdd.
Beth mae hyn yn ei olygu?
Er bod dibyniaeth ar nyrsys i ddefnyddio barn broffesiynol i reoli risgiau pan fydd prinder staff, amlyga’r astudiaeth nad oes gan eu penderfyniadau yr un pwysau o ran cytuno ar lefelau staffio ar lefel y bwrdd.
Bydd hyn yn arwain hwyrach at ofal diogel i gleifion ond nid o reidrwydd o safon uchel, a gallai hyn effeithio ar y gallu i gadw nyrsys a pharhad prinder staff. Adnabuwyd y camau canlynol i fynd i'r afael â hyn:
- darparu geirfa i nyrsys er mwyn iddynt allu mynegi eu barn broffesiynol am wneud penderfyniadau strategol,
- bod sefydliadau gofal iechyd yn fwy cynhwysol o ran gwybodaeth glinigol ac arbenigol nyrsys
- mireinio systemau mesur i ddal cymhlethdod gofal yn well
Allbynnau'r prosiect
Mae adroddiad llawn canfyddiadau'r astudiaeth ar gael i'w ddarllen.
Gweler isod am gyflwyniad 10 munud ar ganfyddiadau'r astudiaeth:
Pro-Judge presentation
PRO-JUDGE study outcomes presentation
Gwyliwch yr animeiddiad 90 eiliad canlynol i gael trosolwg o ganfyddiadau'r astudiaeth:
Cyllid
Ariannwyd y prosiect hwn gan Sefydliad y Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN).