Ewch i’r prif gynnwys

Dulliau i adnabod rheolaeth drwy orfodaeth mewn cleifion: adolygiad cwmpasu

Adolygiad cwmpasu i ddod o hyd i ffyrdd i adnabod cleifion sy’n cael eu rheoli drwy orfodaeth a sut y gellir eu cefnogi os caiff ei hadnabod.

Y Cefndir

Mae rheolaeth drwy orfodaeth (CC) yn batrwm o ymddygiad lle mae un person yn y perthynas yn ceisio rheoli’r llall. Gall hyn ddilyn at gam-drin treisgar neu gall yr ymddygiad barhau am flynyddoedd heb drais.  Mae'n bresennol mewn achosion o ddynladdiad domestig ac achosion o gam-drin neu stelcio pan mae’r berthynas wedi dod i ben.

Hyd yn oed heb y canlyniadau difrifol hyn, mae rheolaeth drwy orfodaeth yn cael effeithiau hirdymor ar iechyd dioddefwyr. Ymhlith y rhain mae cyflyrau iechyd hirdymor, canlyniadau iechyd meddwl gwaeth a thueddiad i ddefnyddio dulliau ymdopi afiach (er enghraifft drwy gamddefnyddio sylweddau).

Rydym yn cydnabod bod plant hefyd yn dioddef o reolaeth drwy orfodaeth. Efallai y byddant yn dioddef canlyniadau iechyd meddwl ac efallai y bydd dioddefwr yn cael hi’n anodd bod yn rhiant.

Pan fo rheolaeth drwy orfodaeth yn bodoli heb drais, gall fod yn anodd ei hadnabod. Efallai na fydd dioddefwyr yn gwybod beth maen nhw'n ei brofi ac felly efallai na fyddant yn gallu gofyn am gymorth.

Dull

Mae'r prosiect hwn yn adolygiad cwmpasu i ystyried yr hyn rydym yn ei wybod am adnabod rheolaeth drwy orfodaeth a pha ymyriadau y gellir eu defnyddio i gefnogi dioddefwyr a'u plant yn dilyn adnabod rheolaeth drwy orfodaeth.

Effaith

Bydd canfyddiadau'r adolygiad yn llywio ymchwil bellach er mwyn helpu ymarferwyr gofal iechyd, gan gynnwys bydwragedd, ymwelwyr iechyd, a nyrsys iechyd rhywiol, i adnabod rheolaeth drwy orfodaeth.

Cyllid

Mae'r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan Wellbeing of Women, Coleg Brenhinol y Bydwragedd ac Ymddiriedolaeth Nyrsio Burdett

Prif ymchwilydd

Picture of Anna Sydor

Dr Anna Sydor

Darlithydd: Nyrsio Oedolion

Telephone
+44 29225 11669
Email
SydorA@caerdydd.ac.uk

Thema’r ymchwil

Nurse and patient holding hands

Cyflyrau tymor hir

Rydyn ni’n ceisio optimeiddio lles mewn iechyd a salwch pobl yng Nghymru a thu hwnt y mae cyflyrau cronig a chyflyrau sy'n cyfyngu ar eu bywydau yn effeithio arnyn nhw.