Ewch i’r prif gynnwys

INHABIT: Rhyngweithiadau plant a phobl ifanc â'u hamgylcheddau naturiol ac adeiledig

A ninnau’n grŵp rhyngddisgyblaethol, rydym yn cynhyrchu atebion arloesol sy'n gwella bywydau plant a phobl ifanc yng Nghymru.

Cefndir

Mae treulio amser yn yr awyr agored yn fuddiol o ran sicrhau iechyd meddwl a lles da plant a phobl ifanc (PaPI). Fodd bynnag, mae PaPI yn treulio llai o amser yn yr awyr agored nag ar unrhyw gyfnod arall mewn hanes. Mae hyn yn cyd-fynd â’r defnydd eang o gyfryngau cymdeithasol ac amser sgrîn, ac mae’r rhain wedyn wedi’u cysylltu â’r pryder cynyddol am iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae pandemig Covid-19 hefyd wedi effeithio’n negyddol ar iechyd meddwl a lles PaPI, gyda Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod PaPI wedi bod yn un o’r grwpiau yr effeithiwyd arnynt fwyaf.

Y Nod

Nod y prosiect hwn felly yw deall sut mae PaPI yn ymgysylltu â'r amgylchedd adeiledig a naturiol, a hynny er mwyn cynhyrchu tystiolaeth y gall llunwyr polisïau a chynllunwyr, er enghraifft, ei defnyddio i wella iechyd meddwl a lles PaPI.

Dull

Rydym wedi cyd-greu dau holiadur, un ar gyfer rhieni ac un ar gyfer PaPI 12-16 oed; yn sail i’r holiaduron hyn mae’r model Gallu, Cyfle, Cymhelliant, Ymddygiad (COM-B) ar gyfer newid ymddygiad. Mae'r COM-B yn cynnig fframwaith cynhwysfawr ar gyfer deall ymddygiad, yn ogystal â chynllunio ymyriadau newid o ran ymddygiad.

Canlyniadau disgwyliedig

Yn ogystal ag erthyglau mewn cyfnodolion, bydd adroddiad ffurfiol a ffeithlun hygyrch a dwyieithog yn cael eu cynhyrchu a'u dosbarthu i rieni a phlant a phobl ifanc, asiantaethau'r llywodraeth, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill.

Cyllid

Ariennir y prosiect hwn gan Crwsibl Cymru.

Prif ymchwilydd

Thema’r ymchwil