Ewch i’r prif gynnwys

Rhagsefydlu cynhwysol (I-Prehab) i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau ynglŷn â deilliannau canser

Mae rhagsefydlu (prehab) yn paratoi pobl ar gyfer triniaeth canser ac yn eu helpu yn ystod y driniaeth i fwyta'n dda ac i fod yn gorfforol actif ac yn emosiynol wydn.

Y Cefndir

Gall rhasefydlu arwain at lai o gymhlethdodau o ran y driniaeth a chanlyniadau gwell o ran y canser, gan gynnwys bywyd hirach. Gall hefyd gynhyrchu arbedion o ran costau i wasanaethau. Os yw gwasanaethau rhagsefydlu i fod yn gynhwysol o safbwynt pawb, mae angen newidiadau i wella mynediad ac i gefnogi cyfranogiad.

Y Nod

Byddwn yn gweithio gyda chleifion, gofalwyr, gweithwyr ym maes canser, a rheolwyr gwasanaethau ym maes canser i greu (cydgynhyrchu) a gwerthuso I-Prehab. Bydd I-Prehab yn becyn cymorth fydd yn cefnogi gweithwyr ym maes canser i godi ymwybyddiaeth o wasanaethau rhagsefydlu ar gyfer cleifion canser, a chyfranogiad yn y gwasanaethau hyn. Bydd yn cael ei gynllunio i oresgyn rhwystrau’n ymwneud â mynediad ac i ddarparu adnoddau fydd yn gymorth ar gyfer cadw at y rhagsefydlu, yn enwedig ar gyfer y rhai o gymunedau difreintiedig yn gymdeithasol a chymunedau lleiafrifoedd ethnig.  Byddwn yn astudio cleifion sy'n cael triniaeth ar gyfer canser y gastroberfedd uchaf, y coluddyn, yr ysgyfaint neu'r fron.

Dyluniad a dulliau

Bydd yr ymchwil yn digwydd mewn 4 cam, a bydd wedi’i chynllunio a’i chyflwyno mewn partneriaeth â chynrychiolwyr o gymunedau difreintiedig yn gymdeithasol a chymunedau lleiafrifoedd ethnig:

Cam 1. Adolygiad o waith ymchwil cyhoeddedig perthnasol i ddarganfod yr hyn rydyn ni’n ei wybod eisoes am gymorth sy’n ddiwylliannol briodol o ran gweithgaredd corfforol, maeth, a gwydnwch emosiynol.

Cam 2. Ymchwilio'n fanwl i'r arferion rhagsefydlu presennol ym mhob un o wyth sefydliad y GIG sy'n trin canser yng Nghymru.

Cam 3. Gweithdai gyda phobl sydd wedi’u heffeithio gan ganser a darparwyr gwasanaethau, a hyn er mwyn defnyddio canfyddiadau camau 1 a 2 i gynhyrchu I-Prehab.

Cam 4. Profi a yw'n bosibl cyflwyno I-Prehab. Bydd hyn yn golygu gwirio a fydd gweithwyr ym maes canser yn cwblhau hyfforddiant addysgol yn ymwneud ag I-Prehab ac yna’n defnyddio I-Prehab, a ydynt yn ei gael yn ddefnyddiol, a bydd yn golygu hefyd cael gwybod am brofiadau cleifion.

Mae cynrychiolwyr o Cynnwys y Cleifion a'r Cyhoedd yn cytuno ag aelodau tîm y clinigwyr. Mae potensial sylweddol o sicrhau budd i iechyd cleifion trwy wella mynediad pobl o gymunedau difreintiedig yn gymdeithasol a chymunedau lleiafrifoedd ethnig at ragsefydlu. Roedd tri pherson o blith y cleifion a'r cyhoedd yn dymuno bod yn gyd-ymgeiswyr ar gyfer yr ymchwil, a hynny er mwyn arwain a chydlynu gweithgareddau cynnwys y cyhoedd. Byddant yn ymuno â thîm ymchwil I-Prehab ac yn cyfrannu at ddadansoddi data, dylunio dulliau, dogfennau sy'n ymwneud â chleifion, cynllun effaith a hefyd at rannu'r canlyniadau'n effeithiol er mwyn eu lledaenu cymaint â phosibl.

Lledaenu syniadau ac adnoddau

Byddwn yn gweithio gyda'n sefydliadau partner i ddosbarthu I-Prehab ledled Cymru a gweddill y DU. Byddwn yn rhannu canfyddiadau’r ymchwil gyda gweithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd, rheolwyr ysbytai a phobl yr effeithir arnynt gan ganser, a hynny drwy hyfforddiant y GIG, elusennau, y wasg, cyfryngau cymdeithasol, cynadleddau, cyfarfodydd cyhoeddus, ac mewn cyfnodolion gwyddonol a phroffesiynol.

Cyllid

Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR) sy’n ariannu’r prosiect hwn.

Prif ymchwilydd

Thema’r ymchwil