Asesu offer unedig ar gyfer gwerthuso beirniadol wrth adolygu ymyriadau’n gyflym
A yw offer unedig yn fwy effeithlon o ran amser nag offer ar gyfer mathau penodol o astudiaethau wrth adolygu effeithiau ymyriadau’n gyflym?
Cefndir
Mae asesu ansawdd astudiaethau’n hanfodol ar gyfer gwerthuso effeithiau ymyriadau’n gywir. Fodd bynnag, gall y broses hon fod yn heriol oherwydd bod angen dewis offer priodol, dehongli canlyniadau'n gyson a chynnal cytundeb rhwng adolygwyr.
Yn rhan o adolygiadau cyflym, mae'r dull o asesu ansawdd yn aml yn anghyson. Gall hyn ogwyddo’r broses. Mae dulliau'n amrywio'n sylweddol o ddefnyddio un adolygydd i gynnwys sawl adolygydd annibynnol neu hepgor y gwerthuso’n gyfan gwbl.
Mae'r amser sydd ei angen ar gyfer yr asesiadau hyn fel arfer yn amrywio o 10 munud i 40 munud fesul astudiaeth, gan ddibynnu ar gymhlethdod yr offeryn, profiad yr adolygwyr a natur yr astudiaethau sy'n cael eu hadolygu.
Rhesymeg
Mae gwneud y defnydd gorau o brosesau adolygu cyflym yn cynnwys dewis offer sy'n cydbwyso asesu trylwyr ag effeithlonrwydd amser. Datblygwyd offer unedig i fynd i'r afael â'r her hon trwy gynnig dull strwythuredig sy'n addas ar gyfer mathau gwahanol o astudiaethau. Fodd bynnag, er bod yr offer hyn yn dangos addewid, prin yw'r ymchwil sy'n cymharu eu heffeithiolrwydd ag effeithiolrwydd offer sydd wedi'u teilwra ar gyfer mathau penodol o astudiaethau.
Amcan
Bydd yr ymchwil hon yn trin a thrafod a all offer unedig ar gyfer gwerthuso beirniadol symleiddio'r broses, gwella effeithlonrwydd a lleihau'r amser a'r adnoddau sydd eu hangen i adolygu effeithiau ymyriadau’n gyflym. Bydd hefyd yn ceisio nodi'r offeryn unedig mwyaf effeithiol at y diben hwn.
Cyllid
Mae'r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan Evidence Synthesis Ireland.