Ewch i’r prif gynnwys

The Early Warning Wearable Device (EWWD) Project

Mae'r prosiect hwn yn defnyddio technoleg y gellir ei gwisgo i ddatblygu llwyfan monitro o bell i bobl sydd â phoen yng nghymalau'r coesau neu ddiabetes.

Cefndir

Mae poen yng nghymalau'r coesau a niwropathïau ymylol diabetig yn broblemau clinigol cyffredin a all amharu ar sut mae pobl yn symud. O ganlyniad, gall hyn olygu bod cleifion yn cael anhawster i gyflawni gweithgareddau bywyd bob dydd, fel cerdded neu ddringo grisiau, a thrwy hynny gynyddu'r tebygolrwydd o anweithgarwch corfforol a chwympo'n ddamweiniol.

Rhagwelir y bydd y nifer o bobl sy'n dioddef poen yng nghymalau'r coesau a diabetes yn cynyddu, ac felly mae'n bwysig dod o hyd i ffyrdd newydd o wella effeithlonrwydd clinigol a lleihau llwyth y gwasanaeth gofal iechyd. Nod yr astudiaeth hon yw datblygu datrysiad iechyd clyfar newydd i wella cywirdeb cynlluniau triniaeth, effeithlonrwydd clinigol a gofal cleifion yn gyffredinol. Bydd hyn ar ffurf llwyfan adsefydlu a monitro deallus yn y cartref, gan ddefnyddio technoleg y gellir ei gwisgo sydd ar gael yn fasnachol. Caiff y dechnoleg ei gyrru gan algorithmau cyfrifiadurol a all ddadansoddi gwybodaeth am sut mae pobl yn symud, eu symptomau a data clinigol i bersonoli'r adsefydlu i'r unigolyn. Bydd ein grŵp ymchwil yn cymryd rhan ym mhrosiect EWWD ac yn cynnal ymchwil i helpu i gyflawni ei nodau.

Rhagor o wybodaeth: ewwd-project.co.uk.

Cyllid

Cyd-gyllidir y prosiect gan raglen Interreg Ffrainc (Sianel) Lloegr gyda chyfraniad o €7.4 miliwn gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop (ERDF).

Cyflwyniadau fideo

Cyfres cyfweliadau partner EWWD: Prifysgol Caerdydd

Gweithdy ymchwil ansawdd symudiad EWWD

Y cynllun ymchwil

Rydym yn bwriadu mesur symudiad, symptomau a data iechyd hunan-gofnodedig dros amser. Bydd dwy ran i'r elfen casglu data:


Rhan 1

Bydd cyfranogwyr yr astudiaeth yn dod i'r brifysgol, a gan ddefnyddio technoleg 'safon aur', byddwn yn asesu sut maen nhw'n symud wrth gyflawni tasgau bob dydd. Yna caiff y sesiwn ei hailadrodd ar ôl cyfnod o bythefnos.


Rhan 2

Cynhelir y rhan hon yn ystod y cyfnod o bythefnos rhwng y sesiynau asesu a ddisgrifir yn Rhan 1. Bydd cyfranogwyr yn mynd â hyd at 3 synhwyrydd adref ac yn eu gwisgo ar eu pelfis a'u coesau, yn ogystal â mewnwadnau pwysedd traed yn eu hesgidiau, am 2 awr y dydd wrth gerdded, ymarfer corff neu gyflawni gweithgareddau bywyd bob dydd. Hefyd bydd gofyn i gyfranogwyr lenwi holiaduron am eu symptomau, eu hiechyd cyffredinol a'u profiad o ddefnyddio'r dechnoleg.


Canlyniadau disgwyliedig

Ein nod yw recriwtio 183 o bobl â phoen cyhyrysgerbydol yn eu coesau, diabetes a phobl heb y naill na'r llall o'r cyflyrau, i ddysgu am eu symudiad wrth ddefnyddio'r dechnoleg y gellir ei gwisgo. Bydd yr ymchwil yn cyfrannu at greu llwyfan adsefydlu a monitro deallus sy'n seiliedig ar dechnoleg y gellir ei gwisgo. Yna gellir profi'r llwyfan ymhellach gyda chleifion.

Canlyniadau a chynnydd

Byddwn yn cyfrannu at y prosiect EWWD ehangach drwy gynnal treialon ymchwil a chynhyrchu cyhoeddiadau. Ceir amlinelliad cryno o'n gwaith a'n cynnydd yn y rhestr isod:

Adolygiad cwmpasu osteoarthritis y pen-glin a thechnoleg y gellir ei gwisgo

Er mwyn mapio ac archwilio'r dystiolaeth bresennol o ddefnyddio technoleg y gellir ei gwisgo ar gyfer asesu iechyd pobl ag osteoarthritis yn y byd go iawn, rydym ni wedi cynnal adolygiad cwmpasu o'r enw ‘Applications of Wearable Technology in a Real-Life Setting in People with Knee Osteoarthritis: A Systematic Scoping Review’, a gyhoeddwyd yn y ‘Journal of Clinical Medicine’.

Astudiaeth o ddilysrwydd a dibynadwyedd technoleg y gellir ei gwisgo

Cynhelir astudiaeth ar hyn o bryd i bennu dilysrwydd a phrofi dibynadwyedd gwahanol synwyryddion y gellir eu gwisgo mewn poblogaeth iach. Dechreuwyd casglu data ar gyfer y gwaith hwn ym mis Hydref 2021.

Canmoliaeth uchel gan Gynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2021

Roedd ein gwaith ar brosiect EWWD yn gais a gafodd ganmoliaeth uchel iawn ar gyfer 'Gwobr Effaith' Cynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn 2021.

Prif ymchwilwyr

Dr Mohammad Al-Amri

Dr Mohammad Al-Amri

Uwch-Gymrawd Ymchwil

Email
al-amrim@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 206 87115
Yr Athro Kate Button

Yr Athro Kate Button

Pennaeth Ymchwil & Arloesi

Email
buttonk@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 206 87734

Thema ymchwil

Physiotherapist works with patient on cardiorespiratory equipment

Optimeiddio iechyd trwy weithgarwch, ffyrdd o fyw a thechnoleg

Rydym yn cynnal ymchwil cymhwysol sy'n ceisio galluogi a hyrwyddo byw iach i'r rhai sy'n dioddef amrywiaeth o gyflyrau, afiechydon ac anafiadau acíwt a chronig.