Ewch i’r prif gynnwys

Derbynioldeb asesu symudiad o bell mewn pobl â haemoffilia

Asesu addasrwydd dadansoddi symudiad o bell mewn pobl â hemoffilia i roi gwybodaeth am y risg o gwympo.

Y Cefndir

Wrth i ofal iechyd ddatblygu, mae disgwyliad oes pobl â haemoffilia wedi cynyddu.

Mae newidiadau sy'n gysylltiedig ag oedran bellach yn bresennol yn y boblogaeth hon, gan gynnwys gwendid, llai o gydbwysedd ac ofn cwympo.

Mae cwympo yn fwy cyffredin yn y grŵp hwn o bobl a gallant gael canlyniadau mwy difrifol o ganlyniad i waedu trawmatig. Mae'n bwysig ceisio lleihau'r risg o gwympo yn y boblogaeth hon. Serch hynny, nid oes cytundeb ar sut i fesur neu fonitro'r risg o gwympo.

Amlinelliad o’r astudiaeth

Nod yr astudiaeth hon yw trin a thrafod pa mor rhwydd yw’r feddalwedd dadansoddi symudiad i’w defnyddio yng nghartref yr unigolyn wrth wneud mesuriadau syml o symudiadau.

Y prawf codi a symud wedi’u hamseru (TUAG) yw hwn. Mae’n cael ei ddefnyddio i asesu symudedd a chydbwysedd. Yn ystod y prawf, mae’r unigolyn yn codi o’i gadair, yn cerdded 3m, yn troi ac yn dychwelyd i eistedd yn y gadair, gan ddefnyddio unrhyw gymhorthion cerdded sydd eu hangen.

Yna gofynnir i'r unigolion roi adborth ar sut roedden nhw'n teimlo wrth ddefnyddio'r dechnoleg yn eu cartref. Byddwn yn cynnal cyfweliadau i gasglu adborth. Bydd yr astudiaeth yn cael ei ddefnyddio i benderfynu a yw hyn yn ffordd addas o fesur a monitro'r risg o gwympo mewn pobl â hemoffilia mewn ymchwil bellach yn eu cartrefi.

Cyllid

Ariennir y prosiect hwn gan y Gymdeithas Ewropeaidd Haemoffilia ac Anhwylderau Cysylltiedig - Grant Ymchwil i Weithwyr Proffesiynol sy’n Gysylltiedig â Byd Iechyd 2023.

Prif ymchwilydd

Mae'r prosiect hwn yn cael ei arwain gan Louise Crossley (Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro) ac yn cael ei oruchwylio gan yr Athro Kate Button.

Picture of Kate Button

Yr Athro Kate Button

Athro / Pennaeth Ymchwil ac Arloesi

Telephone
+44 29206 87734
Email
ButtonK@caerdydd.ac.uk

Thema’r ymchwil

Woman at whiteboard

Optimeiddio darparu a threfnu gwasanaethau

Mae ein hymchwil yn cynnig tystiolaeth am ffyrdd cyfredol a newydd o drefnu a chyflenwi gwasanaethau i fodloni anghenion a galwadau iechyd a gofal cymdeithasol cymhleth.