Ymchwil yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd
Rydym ni'n optimeiddio iechyd a gofal cymdeithasol ar draws cwrs bywyd yng Nghymru a thu hwnt, gan roi pobl a theuluoedd wrth galon ein hymchwil.
Themâu ymchwil
Rydyn ni’n ceisio optimeiddio lles mewn iechyd a salwch pobl yng Nghymru a thu hwnt y mae cyflyrau cronig a chyflyrau sy'n cyfyngu ar eu bywydau yn effeithio arnyn nhw.
Rydyn ni’n cynnal ymchwil cymhwysol sy'n ceisio galluogi a hyrwyddo byw’n iach i'r rhai sy'n dioddef o amrywiaeth o gyflyrau, afiechydon ac anafiadau acíwt a chronig.
Mae ein hymchwil yn cynnig tystiolaeth am ffyrdd cyfredol a newydd o drefnu a chyflenwi gwasanaethau i fodloni anghenion a galwadau iechyd a gofal cymdeithasol cymhleth.
Mae Prifysgol Caerdydd yn darparu amrywiaeth o adnoddau a chyfleusterau addysgol sydd wedi fy helpu i fwynhau fy mywyd academaidd. Hefyd fel myfyriwr tramor sydd ag angerdd am deithio, rwyf wedi archwilio bron pob cornel o Gymru, o gopaon Eryri i draethau Dinbych-y-pysgod!
Dan sylw
Rwy'n hoffi mynd i weithgareddau'r Academi Ddoethurol i rwydweithio â myfyrwyr eraill o wahanol ddisgyblaethau academaidd, a chymryd rhan mewn grwpiau ysgrifennu rheolaidd a mynychu gweithdai hyfforddi amrywiol.
Chwilio
Yn bersonol, rydw i wedi magu hyder. Pe bai rhywun wedi dweud wrthyf y byddwn yn sefyll o flaen 150 o bobl yn Neuadd y Ddinas Caerdydd, gan gadeirio sesiwn holi ac ateb pan ddechreuais fy PhD am y tro cyntaf, ni fyddwn wedi ei chredu!