Cyfleoedd yn y Gymraeg
Gall y gallu i siarad Cymraeg fod yn ddefnyddiol iawn yn ystod ac ar ôl i chi orffen eich cwrs a dechrau eich gyrfa o fewn eich maes proffesiynol penodol.
Boed ydych chi eisoes yn siarad Cymraeg neu’n awyddus i ddysgu, gallwn ni eich cefnogi i ddatblygu eich sgiliau iaith Gymraeg. Mae gennyn ni diwtoriaid personol Cymraeg eu hiaith sy'n hapus i'ch cefnogi a gweithio gyda chi yn ddwyieithog hefyd. Gallwch chi hefyd sefyll arholiadau ysgrifenedig ac asesiadau yn Gymraeg.
Lle bynnag y bo’n bosibl, gallwch chi weithio gyda goruchwylwyr neu aseswyr sy’n siarad Cymraeg yn ystod rhai o’ch lleoliadau a gweithio gyda myfyrwyr eraill sy’n siarad Cymraeg mewn sesiynau tiwtorial ac ar asesiadau grŵp.
Rydyn ni’n cynnig 5-40 credyd trwy gyfrwng y Gymraeg yn rhai o’n cyrsiau israddedig. Gall myfyrwyr sy’n gymwys wneud cais am ysgoloriaethau drwy gynllun ysgoloriaethau’r Brifysgol a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Gallwch chi ddysgu rhagor am yr ysgoloriaethau hyn a'n gweithgareddau a'n cyfleoedd Cymraeg drwy fynd i'r wefan Ysgoloriaethau ar gyfer astudio yn y Gymraeg.
Mae'r Brifysgol hefyd yn cynnig cyrsiau dysgu Cymraeg am ddim i'n myfyrwyr. Rydyn ni’n cynnig sesiynau rhagflas byr rhad ac am ddim, cyrsiau i ddechreuwyr, a chyrsiau uwch, gan groesawu dysgwyr newydd a’r rhai sy’n dymuno gloywi eu Cymraeg.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn unrhyw agwedd ar ein cefnogaeth a’n darpariaeth cyfrwng Cymraeg, yna trafodwch gyda’ch tiwtor personol gan y gallan nhw eich cyfeirio at ragor o wybodaeth.
Bydd astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn helpu eich gyrfa ac yn agor drysau newydd i chi y y Brifysgol a thu hwnt.