Lleoliadau gwaith (dysgu seiliedig ar ymarfer)
Mae lleoliadau gwaith (dysgu seiliedig ar ymarfer) yn ffurfio rhan allweddol o'r holl raglenni gofal iechyd.
Mae’n ofyniad gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth a’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal fod myfyrwyr sydd ar raglenni gofal iechyd yn treulio cryn dipyn o amser ar gyfleoedd dysgu ymarferol.
Dyma lle gallwch chi ymarfer defnyddio'r wybodaeth a'r sgiliau rydych chi’n eu dysgu a'u datblygu gyda goruchwyliaeth a chefnogaeth er mwyn i chi allu dod yn ymarferydd annibynnol erbyn diwedd y rhaglen. Mae gan bob rhaglen nifer ofynnol o oriau y mae'n rhaid eu cwblhau, gyda chyfleoedd dysgu sy’n seiliedig ar ymarfer wedi'u trefnu ar wahanol adegau penodol yn ystod y flwyddyn academaidd.

Mae lleoliadau clinigol wedi bod yn uchafbwynt y cwrs i mi. Rwyf wedi bod yn lwcus gyda mentoriaid parod sydd wedi bod yn hapus i gefnogi fy nghynydd.

Ble fydda i a beth fydd disgwyl i mi ei wneud?
Gallwch chi ddisgwyl gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau i'ch helpu i brofi ehangder y proffesiwn a sicrhau y gallwch chi ddangos portffolio o brofiadau dysgu seiliedig ar ymarfer sy'n eich galluogi i fod yn gystadleuol wrth chwilio am waith ar ddiwedd y rhaglen.
Byddwch chi’n gweithio mewn amgylcheddau sy'n adlewyrchu ymarfer iechyd a gofal cymdeithasol heddiw, megis ysbytai, meddygfeydd teulu, lleoliadau cymunedol, cartrefi gofal a sefydliadau annibynnol. Bydd rhai rhaglenni gofal iechyd hefyd yn cynnwys lleoliadau gwaith a dysgu sy’n seiliedig ar ymarfer mewn clinigau preifat, gyda thimau chwaraeon proffesiynol neu mewn lleoliadau gofal cymdeithasol.
I gael profiad, byddwch chi’n cael lleoliadau gwaith ledled Cymru — bydd y lleoliad yn dibynnu ar eich rhaglen a'ch proffesiwn. Bydd hyn yn eich cyflwyno i waith gyda gwahanol boblogaethau gyda demograffeg amrywiol, a gyda goruchwylwyr/addysgwyr ymarfer a thimau amlddisgyblaethol ehangach.
Dysgais lawer iawn gan fy ngoruchwyliwr ymarfer ac roeddwn i’n edmygu ei hagwedd dosturiol at ofalu. Fe wnaeth hi fy annog i ymarfer fy sgiliau bydwreigiaeth a fy ngwthio i gael y profiad dysgu gorau ar y lleoliad gwaith, gan sicrhau hefyd fy mod i’n teimlo’n gyfforddus yn y tasgau roeddwn i’n eu gwneud. Roedd hi mor wybodus ac yn wych am ateb fy holl gwestiynau! Roeddwn i hefyd wrth fy modd â’r ffordd roedd hi’n eirioli dros fenywod a’u dewisiadau ar sawl achlysur, a bob amser yn meithrin perthynas wych â menywod a’u teuluoedd.