Yr Amgylchedd Dysgu
Caiff y cwrs Ffisiotherapi (BSc) ei ddarparu drwy ddarlithoedd, tiwtorialau, sesiynau ymarferol a gweithdai.
Darlithoedd
Fel myfyriwr, byddwch chi’n treulio’r rhan fwyaf o’r sesiwn yn eistedd ac yn talu sylw i’r cyflwyniad, tra hefyd yn cymryd nodiadau am yr wybodaeth a gyflwynir. Bydd cyflwyniadau fel arfer mewn sesiynau 20-25 munud. Rhwng sesiynau, efallai y bydd cyfleoedd i fyfyrwyr holi cwestiynau a hefyd cymryd rhan mewn trafodaethau dan gyfarwyddyd gyda myfyrwyr eraill.
Lle bo’n briodol, bydd cyflwyniadau ac unrhyw ddeunydd darllen ychwanegol ar gael cyn y sesiwn.
Strwythur
Hyd | Uchafswm o 3 awr, ond gydag o leiaf un egwyl. |
---|---|
Nifer y myfyrwyr | Tua 120 i 300. |
Lleoliad | Darlithfa gyda seddi a meinciau gosod. |
Arddull addysgu | Caiff gwybodaeth ei chyflwyno o fewn sbectrwm o ddulliau clyweledol gan gynnwys cyflwyniadau darlith yn defnyddio Microsoft Powerpoint a meddalwedd debyg, fideos ac mae weithiau yn cynnwys cleifion yn dod i mewn a thrafod eu cyflwr. |
Tiwtorialau
Pan fyddwch chi’n dechrau’r rhaglen byddwch chi’n cael grŵp tiwtorial o tua 15 o fyfyrwyr.
Mae tiwtorialau fel arfer yn ddisgyrsiol eu natur ac yn gyfle i geisio dysgu pynciau newydd neu rai nad ydych chi wedi’u harchwilio o’r blaen yn ddyfnach. Maent hefyd yn gyfle da i chi holi cwestiynau nad ydych chi’n gyfforddus yn eu holi mewn fformat darlith.
Os yw’r tiwtorial yn gysylltiedig â darlith flaenorol, bydd gofyn i chi baratoi drwy ddarllen y nodiadau darlith cyn y tiwtorial.
Strwythur
Hyd | Awr, fel arfer, ag egwyl i ddilyn, ond gall barhau am ddwy awr. |
---|---|
Nifer y myfyrwyr | Tua 15 i 30 o fyfyrwyr (os yw’n diwtorial dwbl). |
Lleoliad | Ystafelloedd addysgu bychain gyda chadeiriau a desgiau y gellir eu symud. |
Arddull addysgu | Yn gyffredinol mae tiwtorialau o natur ryngweithiol ac mae ganddynt amrywiaeth eang o fformatau, ond maent fel arfer yn cynnwys gwaith grŵp bach e.e. grwpiau 6 – 8. |
Sesiynau ymarferol
Diben sesiwn ymarferol yw rhoi’r theori ar waith a datblygu sgiliau o wneud y swydd go iawn.
Fel arfer mae myfyrwyr yn cymryd eu tro i fod yn rôl y ffisiotherapydd a’r claf; efallai y bydd yn rhaid i’r claf ddadwisgo i’w siorts/dillad isaf er mwyn i’r myfyriwr sydd yn rôl y ffisiotherapydd weld, teimlo neu symud corff y claf. Er enghraifft, wrth ddysgu sut i dylino (massage), mae angen i’r myfyriwr sydd yn rôl y ffisiotherapydd allu gweld y rhan o’r corff a defnyddio’r technegau ffisiotherapiwtig am oddeutu 30 munud mewn safle sefyll.
Yn aml byddwch chi’n gweithio mewn parau, ond gyda phobl wahanol er mwyn i chi ddysgu defnyddio technegau ar wahanol fathau o gyrff, a dynion a menywod. Bydd disgwyl i chi roi adborth i’r person sy’n ymarfer arnoch chi.
Strwythur
Hyd | Uchafswm o 3 awr, ond maent fel arfer yn rhedeg am awr gydag egwyl i ddilyn.. |
---|---|
Nifer y myfyrwyr | Fel arfer grwpiau tiwtorial dwbl gyda chyfanswm o tua 30 o fyfyrwyr. |
Lleoliad | Ystafelloedd ymarferol gyda phlinthiau uchel-isel y gellir eu symud. |
Arddull addysgu | Gall sesiynau ymarferol gynnwys arddangosiadau gyda chyfleoedd i ymarfer, neu ddysgu drwy brofiad (datrys problemau) wedi’i ddilyn ag adborth a chyngor. |
Proffesiynoldeb
Nod amgylchedd ymarferol y dosbarth yw adlewyrchu’r amgylchedd clinigol, felly mae disgwyl i chi gyflwyno eich hunain mewn ffordd broffesiynol.
Mae cyflwyniad proffesiynol yn hollbwysig er mwyn bodloni gofynion iechyd a diogelwch, rheoli heintiau cymaint â phosibl ac annog hyder y claf. Felly bydd disgwyl i chi wisgo gwisg weithio ymarferol a glynu at y polisi ymddangosiad a gwisg proffesiynol. Mae hyn yn cynnwys clymu gwallt hir yn ôl, cadw ewinedd yn fyr (heb farnis), peidio â gwisgo unrhyw beth islaw’r penelin, dim gemwaith (gan gynnwys tyllau yn y corff) a pharchu urddas myfyrwyr eraill ar bob adeg.
Amgylcheddau dysgu eraill
Mae amrywiaeth o sesiynau eraill o fewn y rhaglen lle byddwch chi’n cael eich cefnogi i gyflawni tasgau penodol.
Yn y flwyddyn gyntaf mae’r rhain yn cynnwys gweithdai anatomeg gan ddefnyddio modelau cymalau anatomeg a hefyd ymweld â’r ystafelloedd dyrannu yn adran anatomeg y Brifysgol. Yn yr ail flwyddyn fe addysgir sgiliau cefnogi bywyd sylfaenol gan sefydliadau allanol, ac yn y drydedd flwyddyn bydd myfyrwyr yn cael gweithdai yn y Ganolfan Ymchwil Cinaesioleg Clinigol (RCCK).
Strwythur
Hyd | Uchafswm o ddwy awr fel arfer. |
---|---|
Nifer y myfyrwyr | Uchafswm o 30 os yw’n grŵp tiwtorial dwbl e.e ar gyfer hyfforddiant sgiliau bywyd sylfaenol, ond gall fod ar sail un i un os ydynt yn dysgu sut i ddefnyddio darn penodol o offer ar gyfer traethawd hir ym mlwyddyn tri. |
Arddull addysgu | Amrywio gan ddibynnu ar y math o sesiwn. |
Astudio annibynnol
Mae astudio annibynnol yn rhan allweddol o’r cwrs ac felly bydd angen i chi fod yn gallu cymryd cyfrifoldeb dros eich dysgu eich hun.
Mae’r pynciau ar gyfer hunan-astudio wedi’u nodi’n glir o fewn yr amserlen a bydd gofyn i chi gwblhau rhestrau arddull dysgu. Byddwch chi’n cael cyfle wedyn i drafod y rhain gyda’ch tiwtor personol.
Yna byddwch yn mynd ati i archwilio dewisiadau o ran sut i ddysgu yn annibynnol a datblygu hyn ymhellach o fewn meysydd pwnc. Er enghraifft, o fewn anatomeg caiff myfyrwyr y cyfle i ddatblygu eu dysgu eu hunain gyda mynediad at fodelau 3D o gymalau, gan ddefnyddio paent corff i amlinellu cyhyrau ar ei gilydd a chreu llwybrau nerfol cymhleth allan o lanhawyr pibell.
We are constantly carrying out improvements and adaptations to our existing buildings in order to improve accessibility.