BSc Ffisiotherapi - gwybodaeth i fyfyrwyr newydd
Cafodd y dudalen hon ei chreu ar gyfer myfyrwyr newydd sy’n dilyn y BSc mewn Ffisiotherapi ac yma ceir gwybodaeth am yr hyn i'w ddisgwyl yn ystod blwyddyn academaidd 2022/2023 ynghyd ag arweiniad ynghylch a fyddwch chi’n addas ar gyfer y cwrs.
Addasrwydd ar gyfer ffisiotherapi
Mae’n rhaid inni sicrhau eich bod yn glir am ofynion corfforol a meddyliol y rhaglen er mwyn ichi allu gwneud penderfyniad cytbwys ynghylch ai Ffisiotherapi yw’r dewis iawn i chi.
Pan fyddwn ni’n dweud bod y rheiny sydd wedi cofrestru yn ‘addas i ymarfer’ rydyn ni’n golygu bod ganddyn nhw’r sgiliau, yr wybodaeth a’r cymeriad i ymarfer eu proffesiwn yn ddiogel ac yn effeithiol.
Un o gyfrifoldebau Cyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) fel rheoleiddiwr statudol yw sicrhau bod ei aelodau yn addas i ymarfer. Mae’n rhaid ichi wybod yn union beth mae addasrwydd i ymarfer yn ei olygu cyn ichi gofrestru ar y rhaglen Ffisiotherapi (BSc).
Llenwch ein harolwg
Gallwch chi lenwi ein harolwg addasrwydd ar gyfer Ffisiotherapi yma.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych chi gwestiynau am natur y cwrs,neu am eich gallu i gymryd rhan ynddo, cysylltwch â’r tîm derbyn a fydd yn eich cyfeirio at y person mwyaf priodol: