Israddedig
Mae'n cyrsiau wedi eu dylunio i ddarparu'r gwybodaeth a'r profiad sydd angen arnoch chi i ddilyn gyrfa broffesiynol yn y maes gofal iechyd. Rydym yn rhoi pwyslais mawr ar agweddau ymarferol a chlinigol ein rhaglenni, oll sydd yn achrededig gan y cyrff proffesiynol perthnasol. Mae pob un o'n rhaglenni wedi'u cyllido drwy'r GIG Cymru.
Lle mae rhaglen yn cynnwys lleoliadau clinigol, mae angen adolygiad iechyd galwedigaethol, a wnaed gan y Brifysgol, a imiwneiddiadau addas.
Nid ydym bellach yn recriwtio ar gyfer Ymarfer Gofal Llawdriniaethol. O fis Medi 2022, bydd y rhaglen yn cael ei chynnig gan Brifysgol De Cymru yn y de/de-ddwyrain, Prifysgol Abertawe yn y de-orllewin, a Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam yn y Gogledd ac rydym yn eich cyfeirio i’r Prifysgolion hynny i ddilyn astudiaethau Ymarfer Gofal Llawdriniaethol yng Nghymru.