HCT393 - Trawsnewid Gofal, Systemau a Gwasanaethau drwy Arweinyddiaeth
Mae'r modiwl hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd, felly gall ei gynnwys newid ar gyfer mynediad 2024/25.
Nod y modiwl lefel Meistr hwn yw darparu gweithwyr iechyd proffesiynol sy'n dymuno ymarfer ar lefel uwch a thu hwnt gyda'r theori a'r wybodaeth benodol i arwain yn effeithiol mewn ystod o gyd-destunau ac i ddatblygu rolau a gwasanaethau newydd.
Nod y modiwl yw paratoi ymarferwyr i arwain mewn systemau gofal iechyd sy'n newid fwyfwy drwy hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r heriau presennol sy'n wynebu gwasanaethau iechyd; pwysigrwydd llywodraethu clinigol a chorfforaethol; ffactorau sy'n dylanwadu ar newid sefydliadol a strategaethau a dulliau o drawsnewid gofal, gwasanaethau a systemau.
Dysgu o bell
Mae pedwar diwrnod a hanner o astudio wyneb yn wyneb a addysgir. Fodd bynnag, mae'r modiwl yn mynnu bod 300 awr o astudio tybiannol yn cael ei gwblhau, mewn perthynas ag elfen dysgu o bell ar-lein y modiwl.
Bydd ffocws y modiwl ar ddysgu o bell yn caniatáu i gyfranogwyr barhau mewn cyflogaeth ac astudio yn eu hardal eu hunain.
Mae gweithgareddau dysgu ar-lein wedi'u cynllunio i alluogi cyfranogwyr i ddefnyddio eu profiadau ymarfer fel sail ar gyfer dysgu. Bydd hefyd yn galluogi myfyrwyr i gael mewnwelediadau cyfoethog ac amrywiol o gymryd rhan mewn fforymau ar-lein gyda chyfoedion o ystod o gefndiroedd a disgyblaethau amrywiol. Yn y modd hwn, mae dysgu'n dod yn berthnasol ac ystyrlon ar lefel unigol.
Bydd sgiliau meddwl beirniadol, gwneud penderfyniadau cymhleth a datrys problemau yn cael eu hyrwyddo, i gyd gyda ffocws ar wella ymarfer. Yn y pen draw, nod y modiwl yw darparu'r wybodaeth a'r theori i alluogi cyfranogwyr i drawsnewid ymarfer trwy ymwybyddiaeth o sgiliau a theori arweinyddiaeth, a thrwy hynny eu galluogi i nodi beth yw gwasanaethau gofal diogel, o ansawdd uchel ac effeithlon.
Dyddiadau'r modiwl
Dysgwch pryd mae'r modiwl annibynnol hwn yn rhedeg drwy lawrlwytho ein Calendr Modiwlau Lefel 7:
Arweinydd y modiwl
Dr Alison H James
Darllennydd: Arweinyddiaeth Gofal Iechyd
- Siarad Cymraeg
- jamesa43@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2068 87818
Mwy o wybodaeth
Cod modiwl | HCT393 |
---|---|
Credydau | 30 |
Lefel | 7 |
Darganfyddwch sut i wneud cais am fodiwlau annibynnol.