HCT139 - Diagnosis a Thriniaeth Cyhyrysgerbydol
Trwy'r modiwl hwn bydd myfyrwyr yn cael eu grymuso i gwestiynu ac ystyried yn gritigol eu harferion ffisiotherapi ac i fod yn feirniadol pan ddaw at ddiagnosis, triniaeth a rheoli cyflyrau cyhyrysgerbydol.
Nod y modiwl yw datblygu dealltwriaeth o rôl ffisiotherapi wrth drin cyflyrau cyhyrysgerbydol yn unol â'r dystiolaeth gyfredol. Yn sail i'r damcaniaethau mae pwyslais ar ddatblygu gofal sy'n claf-ganolog a sgiliau rhesymu clinigol.
Bydd y wybodaeth a'r sgiliau cynyddol yn galluogi myfyrwyr i werthuso ymarfer clinigol yn feirniadol ac i weithredu newid yn seiliedig ar dystiolaeth gyfoes
Dyddiadau'r modiwl
Dysgwch pryd mae'r modiwl annibynnol hwn yn rhedeg drwy lawrlwytho ein Calendr Modylau Unigol Lefel 7.
Mae'r dyddiadau'r modiwl hwn wedi'u newid.
Mae'r dyddiadau fel a ganlyn:
- Chwefror 2025: 18, 19, 24, 25
- Mawrth 2025: 10, 11
- Ebrill 2025: 28, 29
- Mai 2025: 6, 7, 8
Mwy o wybodaeth
Cod modiwl | HCT139 |
---|---|
Credydau | 30 |
Lefel | 7 |
Darganfyddwch sut i wneud cais am fodiwlau annibynnol.