Ewch i’r prif gynnwys

HCT391 - Hwyluso Prosesau Dysgu ac Addysgu

Mae’r modiwl hwn ar lefel gradd meistr yn canolbwyntio ar ddulliau sy’n seiliedig ar dystiolaeth mewn perthynas â hwyluso’r broses o ddysgu, addysgu, dysgu rhyngbroffesiynol a sicrhau safon ym maes addysg uwch ac ymarfer clinigol.

Bwriad y modiwl yw rhoi’r cyfle i weithwyr iechyd proffesiynol ennill gwybodaeth a phrofiad o ddysgu ac addysgu cyfunol ym myd addysg uwch ac wrth ymarfer.

Byddwch chi’n ymdrin â’r ymchwil a’r theori gyfredol sy'n sail i'r broses addysgol ac yn defnyddio’r rhain yn eich cyd-destun ymarfer.

Bydd gofyn ichi lunio a rhoi nifer o strategaethau addysgu a dysgu wedi'i hwyluso ar waith a byddwch chi’n cael eich annog i ddefnyddio dulliau dysgu cyfoes a gyfoethogir yn sgîl technoleg yn eich sesiynau.

Ar ddechrau'r modiwl, byddwch yn cael mentor addysgu. Bydd y mentor yn ddarlithydd o raglen briodol wedi'i lleoli yn HCARE. Bydd gan bob mentor fel darlithwyr ym Mhrifysgol Caerdydd gymhwyster addysgu cydnabyddedig.

Rôl y mentor yw cefnogi eich datblygiad drwy gydol y modiwl a'ch galluogi i ddatblygu sgiliau addysgu a dysgu a chymhwyso'r theori a addysgir yn y modiwl i ymarfer. Bydd eich mentor addysgu:

  • eich cefnogi i gyflawni 50 awr o ymarfer dysgu cysylltiedig
  • hwyluso'r ddarpariaeth o gyfleoedd i arsylwi dysgu ac addysgu
  • darparu sesiynau addysgu
  • arsylwi ac asesu'r ddau sesiwn addysgu crynodol a dysgu wedi'i hwyluso
  • adolygu eich oriau addysgu

Mae’r modiwl yn cynnwys y canlynol

  • magu mathau effeithiol o berthynas, mentoriaeth, tiwtoriaeth, goruchwylio clinigol, sgiliau hyfforddi, rôl darlithydd, athro clinigol, hwylusydd ymarfer ac athro ymarfer, cefnogaeth gan fyfyrwyr eraill
  • damcaniaethau a modelau dysgu ac addysgu; Nodau; Canlyniadau dysgu; cymwyseddau; dulliau addysgu; hwyluso dysgu; dysgu hunangyfeiriedig; Dysgu seiliedig ar ymholiad; adlewyrchiad; dysgu gweithredol; Dysgu seiliedig ar waith; technolegau dysgu; strategaethau asesu, adborth adeiladol; strategaethau gwerthuso; creu amgylchedd dysgu; a nodi cyfleoedd ar gyfer dysgu
  • dysgu rhyngbroffesiynol a'r tîm amlddisgyblaethol
  • prosesau sicrhau ansawdd ym myd addysg, archwiliadau addysgol clinigol, cynnal amgylchedd dysgu diogel, a gwella'r amgylchedd dysgu
  • ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth, y broses ymchwil, beirniadaeth ymchwil, datblygu ymarfer, cleifion a'r cyhoedd sy’n cymryd rhan yn y broses
  • ysgolheictod a datblygiad proffesiynol parhaus

Dyddiadau'r modiwl

Dewch i wybod pryd mae'r modiwl annibynnol hwn yn cael ei gynnal drwy lawrlwytho ein Calendr Modiwlau Annibynnol Lefel 7:

Lawrlwythwch y calendr

Arweinydd y Modiwl

Jayne Hancock

Jayne Hancock

Darlithydd: Nyrsio Oedolion

Email
hancockje1@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 29206 87781

Rhagor o wybodaeth

Côd y modiwlHCT120
Credydau30
Lefel7

Gofynion mynediad

Mae cofrestru gyda'r brifysgol i ymgymryd â'r rhaglen yn dibynnu ar yr ymgeiswyr yn bodloni'r meini prawf canlynol:

  • meddu ar radd gychwynnol neu uwch gan sefydliad cymeradwy
  • meddu ar gymhwyster nad yw'n radd ac sy'n gyfwerth â gradd
  • fel arfer, mae'r rhaglenni hyn yn agored i ymarferwyr cofrestredig sy'n meddu ar radd gychwynnol neu uwch gan sefydliad cymeradwy. Os nad oes gan ymgeiswyr radd gyntaf, bydd y ceisiadau'n cael eu hystyried ar sail unigol. Yn achos ymgeiswyr o'r fath, gofynnir am dystiolaeth o brofiad perthnasol a datblygiad proffesiynol parhaus
  • sicrhau cyllid
  • cymorth y cyflogwr (pan fo hyn yn briodol)
  • mae’n rhaid i ddarpar ymgeisydd sy’n meddu eisoes ar Ddoethur mewn Athroniaeth ddangos bod cynllun y Radd Meistr i'w ddilyn mewn maes astudio gwahanol i'r un y dyfarnwyd gradd PhD amdano
  • fel arfer, bydd y myfyrwyr yn weithwyr iechyd, gofal cymdeithasol neu weithwyr proffesiynol eraill sydd â’r cymwysterau a’r cofrestriadau perthnasol
  • Mae’n rhaid i bob ymgeisydd ôl-raddedig ddangos lefel safonol o Saesneg neu Gymraeg a fydd yn ei alluogi i fanteisio i’r eithaf ar ei gwrs astudio. Bydd y rhan fwyaf o ymgeiswyr yn meddu ar 6.5 ym mhrawf IELTS (Academaidd) ar y cyd â 5.5 ym mhob is-sgil neu TGAU Cymraeg. Darllenwch ein canllawiau ar y gofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o fanylion
  • hwyrach y bydd ymgeiswyr sy’n meddu ar 6 yn gyffredinol ym mhrawf IELTS yn gymwys i gael cynnig sy’n seiliedig ar bresenoldeb ar gwrs iaith Saesneg cyn-sesiynol a gynigir gan Brifysgol Caerdydd. Sylwer bod y lleoedd yn brin ar y cyrsiau hyn, felly gwnewch gais yn gynnar
  • hwyrach y bydd gan fodiwlau unigol ar y rhaglen feini prawf mynediad ychwanegol oherwydd nodau a chanlyniadau dysgu'r modiwl a/neu oherwydd rheoliadau