Ewch i’r prif gynnwys

HCT022 - Asesu a Thrin Anafiadau Chwaraeon

Nod y modiwl hwn yw eich galluogi i werthuso dulliau triniaeth cyfredol yn feirniadol a llunio cynlluniau rheoli i drin anafiadau chwaraeon gan ddefnyddio ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

Y nod yw i chi hefyd ddatblygu'r arbenigedd i ddadansoddi symudiad dynol yn feintiol, fel ffordd o ddatblygu mesurau canlyniadau wrth ymgymryd â thriniaeth ac ymchwil.

Dyddiadau'r modiwl

Dysgwch pryd mae'r modiwl annibynnol hwn yn cael ei gynnal drwy lwytho i lawr ein Calendr Modiwlau Annibynnol ar Lefel 7:

Lawrlwytho'r calendr

Arweinydd y Modiwl

Sian Knott

Sian Knott

Darlithydd: Ffisiotherapi

Email
knotts3@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2068 7592

Gofynion mynediad

Gradd gyntaf neu ddiploma sy'n rhoi trwydded i ymarfer yn y proffesiwn iechyd perthnasol a dwy flynedd o brofiad ar ôl cofrestru.

Rhagor o wybodaeth

Côd y modiwl HCT022
Credydau 30
Lefel 7
Amser dysgu tybiannol 300 awr
Oriau cyswllt 72