Ewch i’r prif gynnwys

Gwneud cais ar gyfer modiwlau Lefel 7

Rhaid gwneud ceisiadau i astudio modiwlau annibynnol yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd drwy ein system ymgeisio ar-lein.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais ar-lein trwy SIMS gan ddefnyddio'r dolenni hyn:

Dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau

Er mwyn sicrhau bod y broses derbyn ac ymrestru yn ddi-drafferth, y dyddiad cau ar gyfer modiwlau sy'n dechrau yn yr hydref (mis Medi neu fis Hydref) yw 31 Gorffennaf a 30 Tachwedd ar gyfer modiwlau sy'n dechrau yn y gwanwyn (mis Ionawr neu fis Chwefror).

Gofynion penodol y cais

Yn ogystal â'r cais ar-lein uchod, bydd disgwyl i chi gyflwyno ffurflen gais atodol i'r tîm derbyniadau yn hcarepgtadmissions@caerdydd.ac.uk ar gyfer y modiwlau canlynol:

  • Sylfaen mewn Asesiad Clinigol Uwch ar gyfer Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol (HCT181)
  • Asesiad Uwch o Blant a Phobl Ifanc (HCT372)
  • Ymarferydd Cyswllt Cyntaf Ymarfer Uwch Cyhyrysgerbydol (HCT348)
  • Portffolio Ymarfer Clinigol Uwch (HCT353)

Disgwylir i ymgeiswyr ddarparu dau eirda a datganiad personol sy'n adlewyrchu eu gofynion datblygu clinigol a phersonol. Rhaid iddyn nhw gael cefnogaeth eu rheolwr llinell a'u Mentor Goruchwylio Dynodedig.