Ewch i’r prif gynnwys

HCT181 - Sylfaen mewn Asesiad Clinigol Uwch ar gyfer Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol

Nod y modiwl hwn yw eich galluogi i weithio mewn amgylcheddau gofal brys a gofal heb ei drefnu, drwy ddatblygu eich sgiliau clinigol asesu cleifion a diagnostig yn eich maes ymarfer penodol.

Mae'r modiwl wedi'i anelu at weithwyr gofal iechyd proffesiynol (nyrsys, parafeddygon a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cysylltiedig) sy'n gweithio ar neu tuag at lefelau uwch o ymarfer.

Mae'r modiwl hwn yn addas ar gyfer ymarferwyr gofal brys/argyfwng, gan gynnwys parafeddygon, ymarferwyr nyrsio brys, ymarferwyr cynorthwyol, nyrsys practis a ffisiotherapyddion â chwmpas estynedig. I gael gwybod a yw'r modiwl hwn yn addas i chi, cysylltwch ag un o arweinwyr y modiwl.

Mae wedi'i gynllunio i adeiladu ar wybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau cyfredol sy’n ymwneud ag asesu corfforol a mynd â'r rhain i lefel uwch yn eu maes ymarfer penodol.

Bydd y modiwl yn cael ei asesu gan Oruchwyliwr/Mentor Dynodedig (DSM) drwy gyfres o Asesiadau Ymarferol yn y lleoliad clinigol ynghyd ag un Arholiad Clinigol (OSCE) yn yr amgylchedd sgiliau efelychiadol.

Mae modd astudio’r modiwl hwn yn fodiwl unigol (yn annibynnol) neu yn rhan o'r MSc llawn mewn Ymarfer Uwch.

Dyddiadau'r modiwl

Dysgwch pryd mae'r modiwl annibynnol hwn yn cael ei gynnal drwy lwytho i lawr ein Calendr Modiwlau Annibynnol ar Lefel 7:

Lawrlwythwch y calendr

Arweinydd y Modiwl

Neil Thomas

Neil Thomas

Uwch-Ddarlithydd: Nyrsio Oedolion

Email
thomasn6@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 206 87127

Sut i wneud cais

Disgwylir i chi ddarparu dau eirda a datganiad personol sy'n adlewyrchu eich gofynion datblygu clinigol a phersonol.

Byddwch chi hefyd angen cefnogaeth eich rheolwr llinell ac Ymarferydd Goruchwylio Meddygol Dynodedig (DSMP) neu Fentor Goruchwylio Dynodedig (DSM) i allu astudio’r rhaglen, gan y bydd angen i chi gronni oriau clinigol trwy weithio ar y cyd â'ch DSMP/DSM. Bydd angen i chi gyflwyno dogfennau ategol i ategu i’ch cais i ni.

Does dim modd gwneud penderfyniad ar eich cais heb y ffurflen hon.