Modiwl Traethawd Hir: Prosiect Seiliedig ar Waith (NRT079)
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Nod y prosiect seiliedig ar waith yw gweithredu a/neu werthuso menter neu newid ymarfer, gan dynnu ar lenyddiaeth gwella iechyd.
Mae'r fenter neu'r newid a nodwyd yn cael effaith ar wella ymarfer/datblygiad ymarferydd, tra'n archwilio eich rôl eich hun fel ymarferydd wrth sicrhau newid.
Mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol heddiw, mae ymarferwyr nid yn unig yn ymwneud ag ymarfer eu proffesiwn, ond hefyd wrth gefnogi'r amgylchedd fel arena dysgu gweithredol, lle mae disgwyl i fyfyrwyr a gweithwyr proffesiynol ddatblygu a chynnal eu cymhwysedd mewn sefyllfaoedd cymhleth iawn.
Nod y modiwl yw:
- eich galluogi chi fel myfyriwr i gaffael y sylfaen wybodaeth a gwerth sy'n sail i ddatblygu, gweithredu a chynnal sgiliau gwella iechyd o fewn yr amgylchedd gwaith sy'n
- eich cefnogi i ddatblygu dealltwriaeth o amgylcheddau lle gwaith/ymarfer sy'n hwyluso myfyrio, arloesi ac ymarfer 'sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr'
- darparu'r sylfaen wybodaeth a'r gefnogaeth i chi i'ch galluogi i ddatblygu, gweithredu a/neu werthuso prosiect neu fenter
Dyddiadau'r modiwl
Dysgwch pryd mae'r modiwl annibynnol hwn yn rhedeg drwy lawrlwytho ein Calendr Modylau Unigol Lefel 7:
Arweinydd y modiwl
Dr Anna Jones
Darllennydd: Nyrsio Oedolion, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu (Ol-Raddedig) a DPP
- Siarad Cymraeg
- jonesa23@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 206 87874
Mwy o wybodaeth
Cod modiwl | NRT079 |
---|---|
Credydau | 60 |
Lefel | 7 |