Ewch i’r prif gynnwys

Portffolio Ymarfer Clinigol Uwch (HCT353)

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Nod y modiwl hwn yw integreiddio gwybodaeth ddamcaniaethol a chlinigol uwch sy'n ofynnol i danategu penderfyniadau triniaeth a wneir mewn ymarfer clinigol ar lefel Uwch Ymarferydd Clinigol.

Bydd y modiwl yn caniatáu i chi, fel ymarferydd clinigol uwch dan hyfforddiant, gymhathu penderfyniadau cymhleth trwy archwilio agweddau damcaniaethol a chlinigol ar wneud penderfyniadau gyda'r bwriad o ddadansoddi a datblygu'ch arfer presennol yn feirniadol. Gan ddefnyddio dadansoddiad beirniadol cewch eich annog i ddatblygu strategaethau ar gyfer ymarfer effeithiol ac amddiffynadwy. Mae'r modiwl yn adlewyrchu'r newidiadau a awgrymwyd yn y Papur Gwyn Ansawdd, Datblygu ac Arweinyddiaeth (Gozzard and Wilson, 2011), sy'n esbonio'r angen i ddatblygu gweithlu medrus yn y dyfodol i ysgogi gwelliant yn y GIG.

Cynhelir asesiadau trwy aseiniadau academaidd yn ogystal â phortffolio o gymwyseddau clinigol, sy'n hanfodol wrth ddatblygu'r Ymarferydd Clinigol Uwch.  Bydd y portffolio clinigol yn cael ei ddyfeisio mewn cydweithrediad â'r Ymarferydd Goruchwylio Dynodedig (DSP), chi a'r tîm modiwl, i ddatblygu cymwyseddau seiliedig ar waith sy'n berthnasol i'ch maes clinigol penodol.

Arweinydd y modiwl

Geinor Bean

Geinor Bean

Uwch-Ddarlithydd: Nyrsio Oedolion

Email
beang2@caerdydd.ac.uk
Telephone
029 206 87717

Lawrlwythwch y calendr modiwl

Lawrlwythwch y calendr

Mwy o wybodaeth

Cod modiwlHCT353
Credydau60
Lefel7