Astudiaeth ôl-raddedig
Datblygwch eich gwybodaeth, dyfnhewch eich dealltwriaeth a miniogwch eich sgiliau gyda'n cyrsiau addysg ôl-raddedig a addysgir a'n modiwlau unigol.

Cyrsiau ôl-raddedig a addysgir
Rydym yn ddarparwr blaenllaw mewn addysg ôl-raddedig ar gyfer nyrsio, bydwreigiaeth a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Yn cyfuno sesiynau cyswllt ac addysgu hunan-gyfeiriedig, mae ein rhaglenni addysg ôl-raddedig yn elwa o fewnbwn ymchwilwyr a chlinigwyr sy'n gweithio ar flaen y gad yn eu meysydd arbenigol.
Mae manylion y cyrsiau isod trwy gyfrwng y Saesneg.
Ein cyrsiau
Modiwlau ar wahân
Mae pob un o'n modiwlau ôl-raddedig ar gael fel cyrsiau ar wahân. Mae rhai o'r modiwlau o AHP a Nyrsio a Bydwreigiaeth wedi eu rhannu ar draws y proffesiynau.
Mae rhai modiwlau yn benodol i’r proffesiwn a/neu gall fod angen i’r myfyriwr weithio mewn ardal glinigol benodol wrth wneud y modiwl. Cysylltwch â'r arweinydd modiwl am fwy o wybodaeth.
Cofrestru
Mae dyddiadau cofrestru a sefydlu ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig a addysgir a ymchwil ar gael ar dudalennau cofrestru.
Cydnabod Dysgu Blaenorol
Byddwch yn ymwybodol bod y Broses o Gydnabod Dysgu Blaenorol (RPL) yn cymryd sawl wythnos i'w chwblhau ac felly byddem yn annog ceisiadau cynnar. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 31 Gorffennaf ar gyfer mynediad i raglenni y mis Medi canlynol. Gall ceisiadau hwyr ohirio dyddiad dechrau'r rhaglen o flwyddyn.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses hon, cysylltwch â rheolwr y rhaglen. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan RPL.
We can take account of both your previous learning and prior experience when reviewing your application.