Stori Susan Chanda Mutanda
Mae Susan yn fyfyriwr yn ei thrydedd flwyddyn yn astudio gradd baglor ym Mhrifysgol Zambia. Daeth i Gaerdydd ar ymweliad cyfnewid er mwyn cael cipolwg ar yr arferion addysgu yng Nghymru.
Dywedodd Susan 'mae'n rhoi'r cyfle i mi nodi'r gwahaniaethau o gymharu â fy sefyllfa leol, a’r gallu i rannu fy mhrofiadau am arferion da o Brifysgol Zambia yn ogystal â meysydd o welliant parhaus.'
Ar ôl treulio saith wythnos ym Mhrifysgol Caerdydd, dywedodd Susan fod ei hamser 'wedi bod yn hynod addysgiadol, yn agoriad llygad ac yn ddiddorol iawn. Un agwedd sydd wedi gwneud argraff ar Susan yw'r ffrindiau hirdymor newydd mae hi wedi’u cwrdd – rhywbeth sydd wedi gwneud ei phrofiad lawer yn fwy cofiadwy.
Mae Susan wedi dysgu cryn dipyn yn ystod ei chwrs yng Nghaerdydd, ac wedi amsugno gwybodaeth academaidd newydd bron bob dydd. Dywedodd Susan 'Rydw i'n gallu cymryd rhan mewn trafodaethau dosbarth gan nad yw'r darlithwyr yn codi ofn; maent yn hynod gymwynasgar. Yn glinigol, rydw i wedi cael y cyfle i fagu sgiliau nyrsio/bydwreigaeth a dysgu pa mor wahanol yw rhai o'r triniaethau gyda'r offer sydd ar gael.'
Rhan o'r cwrs a fydd yn galluogi Susan i geisio sicrhau gwell gofal ar ôl iddi gymhwyso yw clywed am brofiadau gweithwyr proffesiynol a chleifion. Ynghyd ag offer a gwybodaeth wyddonol, gwers orau Suan yw 'y claf sy’n dod gyntaf, a dyna yw egwyddor graidd nyrsio.'
Mae Susan wedi manteisio'n llwyr ar y dulliau dysgu gwahanol ym Mhrifysgol Caerdydd, gan gynnwys defnyddio adnoddau ar-lein megis ebyst a llyfrgelloedd ar-lein ar gyfer llenyddiaeth academaidd berthnasol.
Yn y pen draw, byddai Susan yn annog pobl i gymryd rhan yn y rhaglen gyfnewid gan ei bod yn rhoi'r cyfle i'r unigolyn sylwi ar safbwyntiau ac arferion dysgu gwahanol. Yn ôl Susan, 'I mi, mae wedi bod yn fenter wych a dwi'n ei mwynhau heb ddifaru dim.'
I gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd byd-eang ewch i'n gwefan.