Stori Julia Kalito
Wrth astudio ar gyfer ei Baglor yn y Gwyddorau mewn Nyrsio, dewiswyd Julia gan Brifysgol Zambia i ymweld â Chaerdydd ar raglen gyfnewid. Yn flaenorol, mae Julia wedi cyflawni diploma mewn nyrsio ac uwch-ddiploma mewn bydwreigiaeth.
Yn gyffredinol, mae Julia wedi cael profiad hynod ddiddorol yng Nghaerdydd. Dywed Julia 'Mae'r darlithoedd yn rhyngweithiol a'r cyfathrebu rhwng y myfyrwyr a'r darlithwyr yn hynod effeithiol.'
Mae Julia wedi gallu cyflawni'i thriniaethau gydag offer modern a ddarperir gan y timau lleoliad. 'Mae'r profiad clinigol wedi bod yn wych gan fy mod i wedi dysgu i wneud pethau nad oeddwn i'n gallu eu gwneud yn fy ngwlad o ganlyniad i ddiffyg offer.'
Mae Julia wedi elwa'n fawr ar y mynediad 24 awr i lyfrgell y brifysgol, lle roedd gliniaduron a chyfrifiaduron wrth law gyda mynediad cyflym at y rhyngrwyd.
Yn ystod amser Julia yng Nghaerdydd, mae wedi dysgu ystod o sgiliau nyrsio gwahanol, sy'n amrywio o wneud CPR i helpu cleifion sy'n cael trafferthion yn ystod beichiogrwydd.
Dywed Julia 'Rydw i hefyd wedi dysgu mai cleifion sy'n eich dysgu chi orau am gyflwr, yn hytrach na darllen llyfr. Rydw i wedi gwerthfawrogi mentergarwch Prifysgol Caerdydd o ran gwahodd pobl â chyflyrau gwahanol i rannu eu straeon a phrofiadau gyda ni, roedd yn wych!'
Yn bersonol, mae Julia wedi dysgu i fyfyrio'n gadarnhaol ar ei bywyd, ei gyrfa a'i phroffesiwn ei hun. Byddai Julia yn annog myfyrwyr nyrsio eraill i gymryd rhan yng nghynlluniau cyfnewid y Brifysgol. Mae Julia o'r farn bod y rhaglen gyfnewid o fudd i yrfaoedd unigolion ac yn cynnig gofal nyrsio o ansawdd gwell ledled y byd yn y pen draw.
Dywedodd Julia 'mae wedi rhoi cyfle i fi weld pethau mewn ffordd wahanol a phrofi beth mae pobl eraill yn ei wneud mewn rhannau gwahanol o'r byd.'
I gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd byd-eang ewch i'n gwefan.