Y Swît
Y Swit yw ein lleoliad ysbyty ffug sy'n creu sefyllfaoedd realistig lle gallwch ddatblygu eich sgiliau technegol ac ymarfer rhoi gofal diogel ac effeithiol i gleifion.
Mae’r Swît yn cynnwys ystafell friffio, theatr ffug a phedwar bae chwe gwely mawr i allu cynnal senarios efelychiadol proffesiynol a rhyngbroffesiynol mewn lleoliad acíwt/ysbyty.
Mae Y Swît yn debyg i ward ysbyty go iawn ac mae’n cynnwys y dechnoleg gynyddol soffistigedig a geir mewn lleoliadau gofal iechyd modern yn ogystal ag efelychwyr cleifion. Mae'r cyfuniad hwn yn caniatáu i'n myfyrwyr bydwreigiaeth a nyrsio gael profiad o bob agwedd ar ward ysbyty go iawn.
Mae dysgu efelychiadol yn eich helpu i ddatblygu'r ystod lawn o sgiliau y bydd eu hangen arnoch chi fel gweithwyr gofal iechyd proffesiynol mewn lleoliad diogel a reolir. Mae'r cyfleusterau yn Y Swit wedi'u cynllunio'n ofalus i'ch helpu i gynyddu eich hyder a'ch arbenigedd yn eich maes dewisol. Maent yn rhoi’r cyfle i chi hefyd ddysgu sut i ymdopi â sefyllfaoedd cymhleth nad ydych, o bosibl, wedi’u gweld yn aml ar leoliad gwaith.
Mae'r ystafell yn cynnwys nifer o orsafoedd, ac mae gan bob un ohonynt bwrpas penodol.
- Ward Plant yw Bae 1 yn bennaf, ond nid ein nyrsys plant yn unig sy’n ei ddefnyddio.
- Ein Huned Dibyniaeth Uchel yw Bae 2, lle gall myfyrwyr ymarfer mewndiwbio, CPR a mynediad mewnwythiennol – gweithdrefnau na fyddai modd eu cynnal yn ddiogel mewn lleoliad go iawn.
- Mae Gorsaf y Nyrsys yn dangos sut y disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio'r Swît fel y byddent ar ward go iawn, a chyflawni pob elfen o'u rôl.
- Bae 3: Ward Oedolion - sy’n cynnwys SimMom a SimNewB, adnoddau anhygoel o werthfawr sy’n helpu myfyrwyr bydwreigiaeth i baratoi i ofalu am fenywod sy'n rhoi genedigaeth a rheoli senarios geni ac ar ôl geni.
- Yn yr Ystafell Ystreulio, bydd myfyrwyr yn paratoi pigiadau a chasglu'r deunyddiau sydd eu hangen arnynt i roi triniaeth wrth erchwyn y gwely.
- Bae 4: Mae oedolion yn defnyddio’r Ward Oedolion gan amlaf i weithio drwy senarios clinigol gan gymryd tro i chwarae rôl y cleifion.
- Gellir cynnal hunanasesiadau ac asesiadau gyda myfyrwyr eraill yn yr Ystafell Friffio drwy ddefnyddio system SMOTS y Swît i ddarlledu sesiynau sgiliau ar sgrîn gyflwyno ddigidol.
- Mae Bythau Cyfathrebu yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr ymarfer sgiliau cyfathrebu hanfodol yn ogystal â ffilmio sesiynau i’w hadolygu rywbryd eto.
Efelychwyr cleifion
Mae gennym chwe efelychydd cleifion sy’n gallu amlygu arwyddion hanfodol, arwyddion clinigol a symptomau.
Mae’r ‘Teulu Efelychiadol’ neu’r 'Sim Family' (dau SimMen, SimMom, SimJunior,SimBaby a SimNewB) yn helpu i addysgu sgiliau craidd ar gyfer rheoli llwybrau anadlu, anadlu, y galon a chylchrediad. Mae gan bob un ohonynt fraich dde a ddefnyddir yn benodol i ddatblygu sgiliau mewnwythiennol. Mae hyn yn caniatáu pibellu, fflebotomi, rhoi cyffuriau a thrwytho. Mae nodweddion eraill yn cynnwys canhwyllau llygaid y gellir eu newid, ysgyfaint, coluddyn a synau’r galon, pwls y gellir ei deimlo, a phwysau gwaed y gellir eu cofnodi.
Gellir rhaglennu’r cleifion ymlaen llaw neu eu haddasu o bell yn ystod y sesiwn sgiliau drwy liniadur a meicroffon. Mae hyn oll yn galluogi’r hwyluswyr i ddarparu efelychiadau realistig a heriol sy'n seiliedig ar senarios i brofi gallu’r myfyrwyr i feddwl yn feirniadol a gwneud penderfyniadau clinigol. Mae’n golygu hefyd bod modd rhoi adborth i’r myfyrwyr ar unwaith yn ogystal ag ymyriadau.
Mae myfyrwyr yn cael y cyfle hefyd i ymarfer senarios sy'n digwydd yn aml. Mae hyn yn eu paratoi ar gyfer yr achosion anarferol neu anodd y gallent eu hwynebu yn rhan o’u gwaith.
SimMan
Mae’r SimMan yn efelychydd claf sydd o faint corff oedolyn llawn. Mae’n cynnwys anatomeg realistig ac ymarferoldeb clinigol, ac mae wedi’i leoli ym mae’r Uned Dibyniaeth Uchel. Mae hyn yn rhoi’r cyfle i ymarfer ystod eang o ymyriadau nyrsio mewn lleoliad realistig ond diogel.
Mae ei nodweddion yn cynnwys llwybr anadlu wedi’i rwystro, oedema’r tafod a mewndiwbio drwy’r corn gwddf.
SimJunior
Mae SimJunior yn cynrychioli plentyn tua 6 oed sy'n efelychu ystod eang o gyflyrau - o blentyn iach sy'n gallu siarad, i glaf mewn cyflwr difrifol ac anymatebol heb unrhyw arwyddion hanfodol.
SimBaby
Mae SimBaby yn efelychu baban maint llawn sy'n caniatáu i'r myfyriwr berfformio sgiliau pediatrig perthnasol mewn sefyllfaoedd brys..
Fel aelodau eraill o’r Teulu Efelychiadol, mae ganddo system llwybr anadlu realistig sy'n rhoi’r cyfle i efelychu sefyllfaoedd perthnasol yn gywir a dysgu am batrymau a chymhlethdodau anadlu y mae babanod yn eu hwynebu go iawn.
SimMom
Mae SimMom yn efelychydd maint llawn sy’n efelychu menyw sy’n rhoi genedigaeth. Yng nghyd-destun addysg am fydwreigiaeth y caiff ei ddefnyddio’r bennaf, er y gellir ei defnyddio ar gyfer hyfforddiant anobstetrig hefyd yn ogystal ag efelychydd beichiogrwydd.
Mae'n darparu cyfleoedd realistig i ymarfer nifer o safleoedd rhoi genedigaeth fel ar wastad ei chefn, ar ei phedwar yn ogystal â choesau mewn gwartholion. Ar ben hynny, mae’n helpu i addysgu am symudiadau, gwaith tîm, arwain a sgiliau cyfathrebu mewn lleoliad cwbl ddiogel.
Mae'n cynnwys baban a enir hefyd y gellir ei symud a’i ddefnyddio mewn nifer o ffyrdd i allu edrych ar bob safle a dull posibl a allai fod eu hangen wrth roi genedigaeth. Mae’r rhain yn cynnwys dulliau esgor arferol, ffolennol, dystocia’r ysgwydd, prolaps y llinyn, a geni â chymorth gefel.
Gan ddefnyddio monitorau arwyddion hanfodol, gall myfyrwyr weld holl arwyddion hanfodol y fam yn ogystal â Monitro’r Ffetws yn Electronig i’w wneud mor realistig â phosibl.
SimNewB
Defnyddir SimNewB gyda SimMom, ac mae'n efelychydd cwbl ryngweithiol sy’n cynnwys nodweddion newydd-anedig. Mae hyn yn ddelfrydol wrth gael hyfforddiant am anghenion penodol babanod newydd-anedig.
Mae SimNewB yn cynrychioli baban sydd wedi’i eni ar ôl cyfnod llawn o feichiogrwydd. Mae’n pwyso 7 pwys ac mae ganddo amrywiol gyflyrau sydd wedi'u rhaglennu ymlaen llaw. Mae’r rhain yn amrywio o fod yn faban newydd-anedig llipa syanotig heb unrhyw arwyddion hanfodol, i faban newydd-anedig sy’n symud ac yn crio. Mae gan y bogail bwls realistig y gellir ei asesu, ei dorri a gosod cathetr arno i gael mynediad mewnwythiennol.
Mae SimNewB yn cael ei reoli gan SimPad. Llechen sgrîn gyffwrdd yw hon a gynlluniwyd i allu ei defnyddio’n rhwydd a gallu symud o gwmpas.
Mae gan yr efelychydd yr holl nodweddion sydd gan weddill y Teulu Efelychiadol gan gynnwys llwybr anadlu, anadlu a chylchrediad, yn ogystal â nodweddion ychwanegol fel sugno meconiwm a dulasedd.
Mae gan SimNewB freichiau a choesau sy’n symud ac mae’r rhain yn gallu efelychu bod yn llipa, ffyrfder, symudiadau digymell cynnig a ffit epileptig. Mae ystod o seiniau lleisiol hefyd fel anadlu dwfn a swnllyd, crio neu’r igian sydd i gyd yn creu sefyllfaoedd mwy realistig.