Y Fflat
Mae’r ystafelloedd ymarferol amlddisgyblaethol hyn yn galluogi myfyrwyr i roi eu sgiliau ar waith wrth gynnig gwasanaeth proffesiynol sy’n ddiogel ac yn fedrus.
Mae cartref ffug y Fflat yn cynnwys tair ystafell:
Lolfa cynllun agored a chegin fach
Mae’r ystafell fwyaf yn y fflat wedi cael ei gosod yn lolfa cynllun agored a chegin fach sydd aml yn cael ei ddefnyddio i gynnal astudiaethau achos amlddisgyblaethol ac ymarferion datrys problemau.


Ystafell wely
Mae'r ystafell ganol hefyd yn gallu cael ei defnyddio yn ystafell wely ac i wneud gweithgareddau ar y bwrdd. Mae myfyrwyr yn gallu ymarfer gwneud trosglwyddiadau i ac o’r gwely, a defnyddio rhwymynnau cymorth.

Ystafell ymolchi
Mae’r stafell ymolchi yn cynnwys offer i ymarfer trosglwyddiadau o eistedd i godi o’r tŷ bach, ac i mewn ac allan o’r bath ac o gadair olwyn. Mae’r ystafell ymolchi wedi cael ei gynllunio yn ystafell ymolchi arferol, er mwyn i fyfyrwyr ddysgu sut i weithio mewn mannau cyfyngedig.

Scotia Medical Observation and Training System (SMOTS)
Mae’r cartref ffug yn cynnwys system camerâu SMOTS er mwyn recordio fideo o’r sesiynau triniaeth ac ymarfer ffug. Gall hyn gael ei ddefnyddio i helpu myfyrwyr i ddysgu ac i weld eu sgiliau ymarfer ac i ddysgu o’r profiad.