Ewch i’r prif gynnwys

Ystafell Ddelweddu

Mae ein Hystafell Ddelweddu llawn offer yn galluogi myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig i ddatblygu sgiliau dehongli ac adrodd ar ddelweddau, lleoli cleifion a gwerthfawrogi delweddau.

Mae'r cyfle i efelychu’r broses leoli radiograffig yn rhoi cyfle i fyfyrwyr israddedig fagu hyder cyn ymgymryd â’u lleoliadau clinigol.

Hefyd, mae gan yr ystafell ardal reoledig sy’n cael ei defnyddio ar gyfer prosiectau ymchwil y drydedd flwyddyn ar ansawdd delweddau ac asesu dosau ymbelydredd.

Offer

Ymhlith yr offer yn yr ystafell y mae:

  • Cyfleuster pelydr-X digidol gweithredol (DR) gan gynnwys tiwb, a bwrdd sy’n cynnwys stand bucky unionsyth;
  • System Radiograffeg Gyfrifiadurol (CR) sy'n gysylltiedig â'r System Archif Lluniau a Chyfathrebu mewnol (PACS) ar gyfer delweddu rhithiol;
  • monitorau adrodd diffiniad uchel sy’n cael eu defnyddio i asesu delweddau sy’n cael eu creu gan ein hoffer;
  • peiriannau uwchsain;
  • Dwysydd symudol braich-C.