Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan Cymru ar gyfer Gofal sy'n Seiliedig ar Dystiolaeth

Rydyn ni’n hyrwyddo arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth drwy ddatblygu a gwerthuso systemau rhagorol rhyngwladol ar gyfer arfarnu tystiolaeth, trosi’r dystiolaeth honno ac yna’i rhoi ar waith.

WCEBC

Canolfan Cymru ar gyfer Gofal sy'n Seiliedig ar Dystiolaeth (WCEBC), Canolfan Ragoriaeth JBI.

Nod y Ganolfan yw hwyluso gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i weithredu ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth er mwyn rhoi’r gofal gorau posibl i gleifion drwy becynnau hyfforddiant.

Ym mis Ebrill 2023, ynghyd â phum canolfan arall ledled Cymru, cafodd Canolfan Cymru ar gyfer Gofal sy’n Seiliedig ar Dystiolaeth ei chomisiynu gan y Ganolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i gasglu tystiolaeth sy’n ateb y cwestiynau sydd o flaenoriaeth ynglŷn â pholisi ac ymarfer yng Nghymru tan fis Mawrth 2028.

Mae’r Ganolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn gweithio gyda rhanddeiliaid sy'n ymwneud ag iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru, er mwyn deall effaith y pandemig ar y systemau sy’n darparu iechyd a gofal yng Nghymru, ac i flaenoriaethu cwestiynau y gall eu hateb drwy dystiolaeth ymchwil, ac i sicrhau bod y dystiolaeth orau sydd ar gael yn gyfoes ac yn berthnasol er mwyn cyfeirio ato wrth wneud penderfyniadau.

Cysylltu a Chyd-gyfarwyddwyr

Dr Clare Bennett

Dr Clare Bennett

Darllenydd: Cyfieithu Gwybodaeth a Gwella Iechyd

Email
bennettcl3@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 225 10818
Dr Deborah Edwards

Dr Deborah Edwards

Uwch-Gymrawd Ymchwil

Email
edwardsdj@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 225 10703