Ewch i’r prif gynnwys

Podlediad: Diaries of a Healthcare Professional

Mae Diaries of a Healthcare Professional yn bodlediad sydd wedi'i gynllunio i roi cipolwg i chi ar yr hyn y mae'n ei olygu i fod yn weithiwr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.

Dywedir yn aml mai galwedigaeth yn hytrach na swydd yw gweithio yn y proffesiwn iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'n rôl sy'n gofyn am ymroddiad, angerdd, gofal a dysgu gydol oes. Gall yr oriau fod yn hir, gall pwysau fod yn uchel ac ni fydd dau ddiwrnod byth yr un peth. Ond i'r rhai sy'n gweithio yn y maes mae yna lawer o wobrau, gyrfa sicr a pharchus, cyflog cyson ac yn bwysicaf oll, y gallu i wneud gwahaniaeth i fywydau cannoedd, os nad miloedd o bobl.

Cyfres Un - A Year in the Life of an Occupational Therapy Graduate

Mae’r gyfres gyntaf o Diaries of a Health Professional yn dilyn pedwar o raddedigion diweddar yn eu blwyddyn gyntaf o ymarfer, gan fyfyrio ar pam y gwnaethon nhw ddewis astudio Therapi Galwedigaethol, eu hamser yn fyfyrwyr a’u taith wrth iddyn nhw ganfod eu traed yn eu rolau newydd.

PennodCyfrannwrManylion pennod
Pennod 1: Stori StephanieStephanie Christian

Mae Stephanie, sy’n fam brysur i ddau o blant ac yn hyfforddwr trampolinio, yn trin a thrafod ei thaith i ddod yn therapydd galwedigaethol ac yn myfyrio ar ei swydd gyntaf yn gweithio sifftiau ar batrwm cylch mewn gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol integredig.

Pennod 2: Stori AliceAlice O'Reilly

Dilynwch Alice wrth iddi fyfyrio ar ei hamser yn astudio Therapi Galwedigaethol a thrwy gydol ei blwyddyn gyntaf yn gweithio mewn tîm rhyddhau cleifion y gwasanaethau cymdeithasol.

Pennod 3: Stori SaruSaru Macheva

Mae Saru yn disgrifio ei llwybr i ddod yn weithiwr gofal iechyd proffesiynol ac yn trafod ei blwyddyn gyntaf yn therapydd galwedigaethol cofrestredig - mae rôl gyntaf Saru mewn tîm cymhorthion ac addasiadau’r gwasanaethau cymdeithasol.

Pennod 4: Stori ThomasDr Thomas Williams

Mae Thomas yn trafod ei angerdd am therapi galwedigaethol fel gyrfa ac yn myfyrio ar ei flwyddyn gyntaf o ymarfer, gan gynnwys symud i rôl datblygu gwasanaeth mewn gwasanaeth cyffuriau ac alcohol.

Ynglŷn â’r cyfranwyr

Cwblhaodd Stephanie Christian, sy’n fam i ddau o blant ac yn gyn-drampolinydd, ei Diploma Ôl-raddedig mewn Therapi Galwedigaethol ym Mhrifysgol Caerdydd ym mis Awst 2023. Ar ôl astudio Bioleg yn wreiddiol a gweithio yn y maes hwn am nifer o flynyddoedd, hyfforddodd Stephanie i fod yn therapydd adlam, gan gyfuno ei chariad at drampolinio a chefnogi eraill. Drwy’r rôl hon daeth Staphanie i gysylltiad â therapyddion galwedigaethol a oedd yn gweithio yn y gymuned ac fe sylweddolodd ei bod o'r diwedd wedi dod o hyd i yrfa a oedd yn cyd-fynd â'i hethos. Fe wnaeth astudio therapi galwedigaethol helpu Stephanie i adeiladu ei hyder a gwnaeth gais i weithio sifftiau ar batrwm cylch band 5 y GIG. Dilynwch daith Stephanie i ddod yn therapydd galwedigaethol ac ar flwyddyn gyntaf ei phatrwm cylch.

Graddiodd Alice O'Reilly gyda BSc mewn Therapi Galwedigaethol o Brifysgol Caerdydd ym mis Gorffennaf 2023. Mae ei thaith gyrfa hyd at y pwynt hwn wedi bod yn amrywiol, gyda gradd mewn Celfyddyd Gain, gweithio ym maes lletygarwch a hyd yn oed cyfnod yn werthwr tai. Ar ôl sawl blwyddyn o weithio ym maes gofal, sylweddolodd Alice mai therapi galwedigaethol oedd yr hyn yr oedd am ei wneud ac ymgymerodd â chwrs mynediad i ofal iechyd er mwyn gwneud cais am ei gradd. Ym mlwyddyn olaf ei gradd, gwnaeth Alice gais am rôl yn therapydd galwedigaethol cymunedol yn y gwasanaethau cymdeithasol, gan ddewis gweithio i awdurdod lleol yn hytrach na’r GIG. Mae’r podlediad hwn yn dilyn taith Alice i ddod yn therapydd galwedigaethol a’r flwyddyn gyntaf o ymarfer ar ôl graddio.

Graddiodd Saru Macheva o Brifysgol Caerdydd gyda BSc mewn Therapi Galwedigaethol ym mis Gorffennaf 2023. Sicrhaodd rôl mewn tîm gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol ac ymunodd hefyd â Phwyllgor Rhanbarth RCOT Cymru yn Arweinydd y Cyfryngau Cymdeithasol. Astudiodd Saru ddeieteg ac er iddi ennill ei gradd yn y pwnc hwn, nid oedd yn teimlo'n ddigon angerddol i wneud gyrfa ohono. Dechreuodd Saru weithio yn gynorthwyydd gofal iechyd, a dywedodd defnyddiwr o’r gwasanaeth y byddai'n gwneud therapydd galwedigaethol da. Ar ôl dysgu mwy am y proffesiwn, sylweddolodd Saru ei bod o'r diwedd wedi dod o hyd i yrfa a fyddai'n ei boddhau ac ymrwymodd i dair blynedd o astudiaeth bellach i gyflawni ei breuddwyd. Yn y bennod hon, mae Saru yn rhannu ei thaith trwy ddarganfod y proffesiwn ac uchafbwyntiau ac isafbwyntiau ei blwyddyn gyntaf yn therapydd galwedigaethol cymunedol.

Cwblhaodd Dr Thomas Williams ei Ddiploma Ôl-raddedig mewn Therapi Galwedigaethol ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2023. Daeth Thomas ar draws therapi galwedigaethol am y tro cyntaf wrth gwblhau ei ddoethuriaeth a phenderfynodd mai dyma’r yrfa yr oedd wedi bod yn chwilio amdani. Gorffennodd ei astudiaethau doethuriaeth tra hefyd yn astudio therapi galwedigaethol ac roedd yn dal i ragori ar y cwrs. Dechreuodd Thomas swydd band 5 yn gweithio sifftiau ar batrwm cylch gyda bwrdd iechyd lleol. Yn fuan wedyn, sicrhaodd Thomas swydd datblygu gwasanaeth mewn gwasanaeth cyffuriau ac alcohol. Ymunodd hefyd â Phwyllgor Rhanbarth Cymru RCOT yn Gynrychiolydd Ecwiti, Amrywiaeth a Pherthyn iddyn nhw - rôl sy'n cyfateb i'w werthoedd. Dilynwch Thomas trwy ei astudiaethau, a'i flwyddyn gyntaf yn therapydd galwedigaethol.

Manylion cyswllt i gael rhagor o wybodaeth:

Rachel Rowlands

Rachel Rowlands

Darlithydd: Therapi Galwedigaethol

Email
rowlandsra@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 206 87651