Partneriaeth Fyd-eang

Mae'r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd yn arwain yn strategol o ran sicrhau bod ein Cenhadaeth Ddinesig yn cynorthwyo ansawdd gofal iechyd cyhoeddus ac yn cryfhau hyn drwy rwydwaith o bartneriaethau sy'n fuddiol i'r ddwy ochr ledled y byd.
Gyda'n gilydd rydym yn mynd i'r afael â heriau ymchwil ac yn darparu cyfleoedd i wella'r profiad dysgu i'n myfyrwyr a'n staff, i ysbrydoli cenedlaethau o weithwyr gofal iechyd proffesiynol ar draws y byd yn y dyfodol. Mae'r prosiectau isod yn dangos sut mae Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd yn ymdrechu i wneud hyn.