Hyfforddiant Therapi Ocsigen
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Bu staff nyrsio academaidd o Brifysgol Namibia, staff nyrsio Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Caerdydd, ac addysgwr ymarfer Uned Gofal Dwys Aneurin Bevan yn cydweithio i lunio deunyddiau addysgu ac addysg ar Therapi Ocsigen, i'w cyflwyno i nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol yn Namibia.
Mae'r addysg a'r hyfforddiant yn paratoi nyrsys a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol Namibia gyda'r wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol i gyflwyno gofal yn llwyddiannus i gleifion â COVID-19. Roedd yr addysg a'r adnoddau hefyd yn cynnwys arweiniad a chymorth ar les ymarferwyr gofal iechyd, eu cydweithwyr a'u cyfoedion.
Mae staff UNAM wedi teithio i wahanol ranbarthau yn Namibia i hyfforddi cynifer o weithwyr iechyd proffesiynol â phosibl, er mwyn gwella gofal a chanlyniadau cleifion â COVID-19. Ymhlith y rhanbarthau mae Khomas, Zambezi, Kavango-East, Oshana, Oshikoto, Karas. Y gobaith yw y bydd yr addysg a'r hyfforddiant hwn, ochr yn ochr â rhodd o PPE gan Lywodraeth Cymru, yn gwella canlyniadau cleifion a'r anawsterau presennol wrth frwydro pandemig COVID-19 yn Namibia.
Mae'r holl weithgarwch wedi'i gefnogi gyda grant hael iawn gan ffrwd ariannu Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru, a roddwyd i Brosiect Phoenix ym Mhrifysgol Caerdydd a'i rannu i'w weithredu gan UNAM Cares a’r Ysgol Nyrsio yn UNAM. Mae'r tîm o Namibia wedi bod yn ddiflino ac yn ddygn yn eu tasg, ac wedi gwneud gwaith rhagorol.
Darganfyddwch fwy:
Dr Anna Jones
Darllennydd: Nyrsio Oedolion, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu (Ol-Raddedig) a DPP
- Siarad Cymraeg
- jonesa23@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 206 87874
If you wish to get involved in the Civic Mission in the School of Healthcare Sciences.