SimplyDo
Mae ein tirwedd ddigidol yn esblygu’n gyflym, ac ni fu diogelu ein data personol erioed mor bwysig.
Yn ddiweddar, cwblhaodd SimplyDo, sy’n gweithio gyda diwydiannau sensitif fel amddiffyn, plismona a gofal iechyd, sesiwn Gynorthwyo gyda ni a’n harbenigwyr, a wnaeth ein galluogi i drosglwyddo gwybodaeth bwysig iddyn nhw am ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial yn eu gwaith.
Mae gofynion sofraniaeth data nid yn unig yn mynnu bod cwsmeriaid yn parhau i gael rheolaeth lwyr dros eu data eu hunain trwy ein gwasanaethau, ond hefyd yn golygu bod rhaid i’r data gael ei brosesu a’i storio’n gyfan gwbl mewn lleoliadau daearyddol a rhithwir y cytunwyd arnynt ymlaen llaw. Er enghraifft, mae gan SimplyDo lawer o gwsmeriaid y mae angen i’w data gael ei reoli’n gyfan gwbl yn y DU.
AI ffynhonnell gaeedig
Mae’r byd wedi gweld twf anferthol a chyflym mewn AI cynhyrchiol ar draws ystod o gyfryngau dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys testun, delweddau, llais, a hyd yn oed fideo. Mae llawer o sefydliadau wedi bod yn rhuthro i fanteisio ar y technolegau cyffrous hyn i rymuso eu gwasanaethau eu hunain, neu hyd yn oed adeiladu categorïau cynhyrchion annibynnol cwbl newydd nad oedden nhw’n bosibl yn flaenorol.
Er mor hwylus yw gwasanaethau AI ffynhonnell gaeedig, parod fel OpenAI, mae ’na ansicrwydd o ran anrhyloywder wrth ymdrin â mewnbynnau data y tu ôl i'r llenni.
Er enghraifft, wrth grynhoi testun nodweddiadol, byddai angen i SimplyDo ddatgelu data cwsmeriaid er mwyn iddo gael ei brosesu gan y gwasanaeth, ac nid yw bob amser yn glir sut y bydd data o'r fath yn cael ei brosesu. I SimplyDo, byddai ansicrwydd o’r fath yn amharu ar eu gallu i ddiogelu data eu cwsmeriaid yn hyderus o ran diogelwch a sofraniaeth.
Roedd gweithio gyda Canolfan Hartree Hwb Caerdydd yn gyfle i dîm SimplyDo feithrin gwybodaeth a dealltwriaeth i gyflwyno a rhedeg eu modelau AI ffynhonnell agored eu hunain yn fewnol tra’n dod i ddeall cymwysiadau gwahanol fathau o fodelau a’r cyfaddawdau o ran cymhlethdod model a chost gyfrifiadurol. Rhoddodd yr Hyb god sampl i SimplyDo i helpu i arddangos y cymwysiadau a’r cyfaddawdau hyn.