Rusty Design
Mae Rusty Design yn gwmni sydd wedi ennill gwobrau sy'n cynnig gwasanaethau dylunio cynnyrch newydd ac arloesedd, prototeipio cyflym gan gynnwys argraffu 3D, a gweithgynhyrchu ar raddfa fach.
Maen nhw’n gweithredu mewn sectorau fel offer chwaraeon a phropiau ar gyfer y diwydiannau teledu a ffilm.
Argymhellodd arbenigwyr Canolfan Hartree Hwb Caerdydd, gyda chefnogaeth yr Athro Yukun Lai o Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd, y dulliau AI cynhyrchiol mwyaf addawol i awtomeiddio prosesau creu gwrthrychau, aseinio gweadau a chreu llyfrgell o wrthrychau digidol. Gweithredwyd y technegau hyn wedyn, gan ddefnyddio modelau gwrthrych y cwmni.

Heb gefnogaeth Canolfan Hartree Hwb Caerdydd, fydden ni ddim wedi gallu cael mynediad i'r arbenigedd yr oedd ei angen arnom ni a datgloi’r llwybr ar gyfer ein prosiectau ar AI cynhyrchiol yn y dyfodol, gan ein paratoi ar gyfer masnacholi. Mae ein rhyngweithiadau wedi paratoi’r ffordd ar gyfer prosiect Innovate UK newydd.
Mae'r diwydiant teledu a ffilm yn defnyddio cynhyrchu rhithwir ar-y-set yn gynyddol, lle mae'n bwysig i'r gweithwyr creadigol symud yn esmwyth rhwng amgylcheddau ffisegol a rhithwir. Mae dulliau cynaliadwy, sy'n cyfyngu ar effaith amgylcheddol cynhyrchu ffisegol a rhithwir, hefyd yn ffactor allweddol. Nod prosesau arloesol Rusty Design, a estynnir gan y defnydd o AI yn eu llifoedd gwaith, yw galluogi cynhyrchu hyblyg a chynaliadwy.
Mae'r cyfarwyddyd a roddwyd gan Canolfan Hartree Hwb Caerdydd wedi helpu Rusty Design i gael gafael ar gyllid Innovate UK drwy Creative Catalyst.