Menna
Nod Menna y w cefnogi busnesau bach i ddeall eu sefyllfa ariannol mewn ffordd glir, ddefnyddiol, a rheoli eu cyllid yn well.
Gan weithredu fel platfform benthyca, mae'n paru busnesau bach ag opsiynau cyllid cymwys, gan ganiatáu i'r ddwy ochr wneud penderfyniadau gwell.
"Mae'n bwysig i ni fod pobl yn cael profiad mor naturiol â phosib ar ein platfform ac nad ydyn nhw’n ymwybodol o'r dechnoleg wrth iddyn nhw ei defnyddio. Rydyn ni’n ymddiddori mewn creu profiad dynolaidd sy'n disodli llwybrau traddodiadol o gefnogaeth nad ydyn nhw yno ar gyfer busnesau bach mwyach," meddai Dan Mines, a sefydlodd Menna gyda Nick Carlton. “Fe wnes i fy ngraddau israddedig ac ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd, a ches i fy nenu ’nôl i'r sîn dechnoleg fywiog yn ne Cymru pan ddechreuon ni weithio ar y cynnyrch hwn.

Mae unrhyw un sydd ag unrhyw brofiad mewn egin fusnesau yn gwybod bod amser yn werthfawr. Mae gweithio Canolfan Hartree Hwb Caerdydd wedi ychwanegu adnoddau ar adeg hanfodol yn ein taith.
Bydd ein prosiect gyda Canolfan Hartree Hwb Caerdydd yn ein galluogi i ehangu. Ein nod yw defnyddio Ffynhonnell Agored neu ein modelau iaith ein hunain wrth i ni ddysgu mwy am y defnyddiwr. Yn y cyfamser, rydyn ni wedi ymrwymo i bartneriaeth â Google Gemini fel ein model sylfaenol.
“Nod ein prosiect yw canfod y pwynt tyngedfennol i ni fel busnes pan ddaw’n werth chweil buddsoddi mewn caledwedd ddrud ac ehangu ein busnes.
Rydyn ni’n rhoi cymorth penodol a lleol ym maes deallusrwydd artiffisial a dadansoddi data i fusnesau bach a chanolig ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd gan ymestyn i ardal Porth y Gorllewin heb unrhyw gost ariannol.