Ewch i’r prif gynnwys

GroupEd

Cerys Furlong yw Prif Swyddog Gweithredol GroupEd, egin fusnes Technoleg Addysg sydd am greu argraff yn y maes rheoli ysgolion.

Dywedodd, “Mae fy nghefndir yn y sectorau gwirfoddol a chyhoeddus; rydw i wedi bod mewn rolau dylanwadu, lobïo ac ymgyrchu, ond byth technoleg. Ond mae gen i ymennydd sy'n ceisio datrys pethau - rwy’n gweld problem ac rwy'n ceisio ei datrys.”

Dyna beth mae GroupEd yn ei wneud yn y maes addysg. Gwnaethant gydnabod bod ysgolion yn dal symiau mawr o ddata, yn aml ar draws platfformau. Gall hyn fod yn anodd i'w reoli ond gall gynnig llawer o ddeallusrwydd hefyd. “Mae cyfle i wneud defnydd gwell o'r data y mae ysgolion yn ei ddal, i alluogi penderfyniadau a gwella addysg

Pam na allwn ni wneud pethau technolegol anhygoel yng Nghymru? Trwy ganolbwyntio ar wneud cysylltiadau a chreu gwerth cyhoeddus, mae ein gallu i ddatrys problemau’n ddiderfyn.

Cerys Furlong, GroupEd

Cysylltodd GroupEd â Canolfan Hartree Hwb Caerdydd i ddeall mwy am sut y gallai defnyddio AI gyflymu prosesu data gan ddefnyddio modelau iaith mawr a rhyddhau amser ac adnoddau i alluogi athrawon i ganolbwyntio ar ddysgu, a staff gweinyddol i ddatrys problemau mwy o faint. Mae eu sesiwn Gynorthwyo a’u prosiect dilynol gyda thîm Canolfan Hartree Hwb Caerdydd wedi eu helpu i weld posibiliadau eraill.

Mae bob amser yn ddefnyddiol cael set wahanol o lygaid i edrych ar yr her ac osgoi mynd yn sownd yn 'y nawr'. Roedd y gwyddonwyr data y gweithion ni gyda nhw yn Canolfan Hartree Hwb Caerdydd yn rhannu ein hiaith, a gwnaethant ddyrchafu ein dyheadau.

Mae GroupEd bellach yn sefydlu AI yn eu platfform, gan gynnig gwasanaethau cyfieithu i hwyluso ymgysylltiad rhwng cartrefi ac ysgolion mewn ieithoedd cymunedol.