Impact
Mae pob BBaCh mewn lle gwahanol ar eu taith AI a data ond yn wynebu heriau tebyg wrth ystyried sut i fanteisio i’r eithaf ar y technolegau newydd chwyldroadol hyn i ddatblygu eu busnes. Mae ein tîm yn ymfalchïo mewn ceisio cynnig cyngor gonest, dibynadwy bob amser, a helpu i dorri drwy'r heip.
Rydyn ni wedi bod yn ddigon ffodus i weithio gyda set amrywiol o arloeswyr ar draws sectorau gan gynnwys Creadigol, Technoleg Ariannol, Technoleg Feddygol, Sero Net, a Diogelwch.
Llywddiannau
Rydyn ni wedi cefnogi busnesau mewn ystod o ddiwydiannau i ddatblygu eu sgiliau a chynnyrch ym maes Deallusrwydd Artiffisial a’r gwyddorau data.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rydyn ni wedi:
Ymgysylltu â 115 o fusnesau bach a chanolig
Weithio mewn partneriaeth â chwmnïau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Phorth y Gorllewin.
Cynnig 1,300awr o gymorth ym maes Deallusrwydd Artiffisial
Rydym yn rhoi mynediad i BBaChau at y gronfa fawr o ymchwil gwyddor data a deallusrwydd artiffisial, ac arbenigedd arloesi ym Mhrifysgol Caerdydd, heb unrhyw gost ariannol i'r cwmnïau.
Rhoi gwerth £125,000 o gymorth DA
Rydyn ni’n dwyn ysbrydoliaeth o ddeall gofynion cwmni a'u helpu i bennu’r camau nesaf ar eu llwybr AI.

Pam na allwn ni wneud pethau technolegol anhygoel yng Nghymru? Trwy ganolbwyntio ar wneud cysylltiadau a chreu gwerth cyhoeddus, mae ein gallu i ddatrys problemau’n ddiderfyn.

Wrth edrych yn ôl ar ein blwyddyn gyntaf o ddarparu cymorth deallusrwydd artiffisial (AI) a gwyddor ddata i fusnesau bach a chanolig (BBaCh), rydyn ni’n hynod falch o'r holl waith sydd wedi'i gyflawni gan ein tîm wrth weithio mewn partneriaeth â chwmnïau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Phorth y Gorllewin.
Rydyn ni’n rhoi cymorth penodol a lleol ym maes deallusrwydd artiffisial a dadansoddi data i fusnesau bach a chanolig ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd gan ymestyn i ardal Porth y Gorllewin heb unrhyw gost ariannol.