Ewch i’r prif gynnwys

Rhannwch eich profiad #CardiffGrad

Diweddarwyd: 10/07/2024 10:18

Rhannwch eich profiad prifysgol gyda ni cyn ac yn ystod Graddio er mwyn i ni allu cydnabod a dathlu eich cyflawniadau eithriadol.

Os ydych wedi rhagori yn eich astudiaethau neu wedi cwblhau ymchwil arloesol, efallai eich bod wedi curo'r holl odlau i gyflawni eich gradd, neu efallai bod eich amser yn y brifysgol yn eich arwain i gyfeiriad newydd a chyffrous.

Beth bynnag fo'ch heriau a'ch cyflawniadau, hoffem rannu eich straeon â chysylltiadau cyfryngau lleol a chenedlaethol ac ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Os oes gennych stori i'w rhannu, ebostiwch ni at communications@cardiff.ac.uk gyda'r wybodaeth ganlynol:

  • enw
  • rhif ffôn cyswllt (adref/ffôn)
  • cyfeiriad ebost cyswllt
  • gradd
  • Ysgol
  • dyddiad ac amser eich seremoni Raddio
  • eich papur(au) newydd lleol
  • gwybodaeth sy'n haeddu sylw yn y newyddion, a lluniau, os yn bosibl.

Rhannu eich profiad Graddio â ni

P'un a ydych chi'n raddedig, yn westai neu'n aelod o staff sy'n mynychu Graddio, rhannwch eich profiad gyda ni drwy ddefnyddio #CardiffGrad ar y cyfryngau cymdeithasol.

Tagiwch eich pyst gan ddefnyddio #CardiffGrad. Gallwch ddod o hyd i ni ar y sianeli canlynol:

Eich moment chi yn ystod y Seremoni Raddio

I'ch helpu i ddathlu eich moment arbennig chi yn y Seremoni Raddio, byddwn ni’n anfon clip personol atoch chi. Ar ddiwedd wythnos y Seremonïau Graddio, byddwch chi’n derbyn e-bost gyda dolen i fideo rhad ac am ddim ohonoch chi’n cerdded ar draws y llwyfan. Gallwch chi rannu'ch clip personol ar y cyfryngau cymdeithasol a'i lawrlwytho i'w gadw am byth. Does dim rhaid i chi wneud unrhyw beth i dderbyn eich clip, ond gwnewch yn siŵr bod gan Swyddfa'r Cyn-fyfyrwyr eich gwybodaeth ddiweddaraf trwy ddiweddaru eich manylion.

Cyhoeddi gwybodaeth a delweddau

Dylai graddedigion, gwesteion, a staff sy'n mynychu Graddio wybod y gallai pob agwedd ar y digwyddiadau hyn gael eu rhannu'n gyhoeddus.

Postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol

Bydd cynnwys a gynhyrchwyd gan ddefnyddwyr sy’n ymwneud â Graddio’n cael ei guradu gan dîm y cyfryngau cymdeithasol a’i arddangos ar sgriniau yn y Stadiwm ac mewn detholiad o leoliadau ar draws y campws.

Bydd y cynnwys yn dod o bostiadau sy’n tagio cyfrifon canolog y Brifysgol ar y cyfryngau cymdeithasol (@cardiffuni@prifysgolcdydd) a/neu sy’n cynnwys yr hashnodau Graddio #CardiffGrad and #GraddCdydd.

Cysylltwch â ni

Cysylltwch i gael rhagor o wybodaeth am rannu eich profiad prifysgol gyda ni.

Tîm Cyfathrebu