Ewch i’r prif gynnwys

Teithio, llety a hygyrchedd

Diweddarwyd: 25/03/2025 14:53

Gwybodaeth am deithio, llythyrau ymwelydd, ymweld â Chaerdydd, parcio ceir, opsiynau o ran llety a hygyrchedd.

Rydyn ni am i’ch profiad o raddio fod yn wych. Nod y wybodaeth ganlynol yw eich helpu i gynllunio.

Yn ystod wythnos y seremonïau graddio, mae Caerdydd yn debygol o fod yn brysur oherwydd digwyddiadau eraill. Ystyriwch hyn wrth wneud trefniadau teithio a dewis llety.

Rhagor o wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd yng Nghaerdydd yn ystod wythnos y seremonïau graddio

Cymorth a chyngor ar deithio

Os bydd angen arnoch chi neu eich gwestai lythyr ymwelydd i ategu cais am fisa, bydd angen i chi gysylltu â’r tîm perthnasol i gael un.

Bydd angen i fyfyrwyr israddedig e-bostio studentconnect@caerdydd.ac.uk, a bydd angen i fyfyrwyr ôl-raddedig e-bostio registrysupport@caerdydd.ac.uk.

Mae Caerdydd yn ddinas lle mae popeth o fewn cyrraedd, ac mae’n weddol hawdd teithio o gwmpas ar droed, ar feic, ar fws, ar drên, mewn tacsi neu hyd yn oed ar gwch.

I gael rhagor o wybodaeth am opsiynau teithio:

Ewch i wefan National Rail i gadarnhau statws gwasanaethau trên, gweld a oes unrhyw darfu ar wasanaethau a pha waith peirianyddol sydd wedi’i drefnu.

Mae llawer o opsiynau parcio ar gael yng nghanol dinas Caerdydd ac ym Mae Caerdydd. I gael rhagor o wybodaeth am leoliadau parcio a phrisiau:

Ni ddarperir llefydd parcio ar y campws ond bydd llefydd ar gael ar gyfer deiliaid bathodynnau glas neu bobl sydd ag anghenion symudedd a all ofyn am hyn drwy e-bostio carparking@caerdydd.ac.uk

Mae croeso i ddeiliaid Bathodyn Glas ddefnyddio maes parcio’r Deml Heddwch ar y diwrnod y byddan nhw’n mynd i seremoni raddio. Ar ôl cyrraedd, bydd gofyn i chi ddangos eich Bathodyn Glas a’i arddangos yn eich cerbyd.

Mae nifer o wasanaethau tacsi ar gael yng Nghaerdydd 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Mae ganddyn nhw gerbydau o bob math i allu cludo grwpiau o wahanol faint a diwallu anghenion hygyrchedd gwahanol.

I gael gwybodaeth am gwmnïau tacsis, safleoedd tacsis a phrisiau, cyfeiriwch at ganllaw Croeso Caerdydd i dacsis.

Nid oes cyfleusterau storio bagiau yn unrhyw un o'n lleoliadau graddio. Os bydd gennych chi fagiau i’w storio, gallwch chi ystyried defnyddio gwasanaeth megis stasher.com.

Opsiynau o ran llety

Gallwn ni gynnig ystafelloedd hunanarlwyo yn Neuadd Aberconwy a Llys Senghennydd o ddydd Sul, 13 Gorffennaf tan ddydd Gwener, 18 Gorffennaf 2025.

Mae'r cyfleusterau'n cynnwys:

  • ystafelloedd sengl
  • cyfleusterau rhannol en-suite (Neuadd Aberconwy) neu gyfleusterau ystafell ymolchi a rennir (Llys Senghennydd)
  • cegin a rennir
  • Wi-Fi am ddim
  • dillad gwely a thyweli ffres
  • dwy noson o leiaf
  • gall uchafswm o wyth o bobl drefnu llety’n rhan o grŵp drwy’r ddolen isod (e-bostiwch neu ffoniwch os bydd mwy nag wyth o bobl yn eich grŵp)
  • llefydd parcio (os oes rhai ar gael) am bris ychwanegol

Cliciwch yma i drefnu eich llety. Os bydd angen cymorth arnoch chi, cysylltwch ag Is-adran Gwasanaethau'r Campws drwy e-bostio groupaccom@caerdydd.ac.uk neu ffonio +44 (0)29 2087 4616.

Mae amrywiaeth eang o lety ar gael yng Nghaerdydd ar gyfer pob chwaeth a chyllideb. Mae Croeso Caerdydd yn cynnig dewis eang o westai, hostelau a llety hunanarlwyo.

Mae Disabled Holidays yn gwmni sy’n arbenigo mewn gwyliau hygyrch, a gall roi manylion llety hygyrch sydd ar gael yng Nghaerdydd.

Gwasanaethau hygyrch

Gwneud cais am addasiadau rhesymol

Yn ystod eich cyfnod yn fyfyriwr, efallai y byddwn ni wedi gwneud addasiadau rhesymol ar eich cyfer, ond mae eich seremoni raddio’n amgylchedd gwahanol iawn i’r mannau dysgu ac addysgu yn y Brifysgol. Er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud yr addasiadau sydd eu hangen arnoch chi ar gyfer y digwyddiad penodol hwn, rhowch wybod i ni beth sydd ei angen arnoch chi wrth gofrestru i ddod i’ch seremoni raddio yn SIMS. Os byddwch chi wedi rhoi gwybodaeth am hygyrchedd i ni ar gyfer eich addysg, wrth ymrestru neu yn ystod eich cyfnod yn astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, ni fydd yn cael ei defnyddio ar gyfer eich seremoni raddio. Bydd angen i chi roi’r wybodaeth hon wrth gofrestru i ddod i’ch seremoni raddio.  

Os bydd angen i addasiadau gael eu gwneud ar gyfer eich gwesteion, rhowch wybod i Marston Events am y rhain wrth fynnu tocynnau i’ch gwesteion ar ei wefan.

Mae gan Croeso Caerdydd ganllaw i hygyrchedd ar gyfer teithio i'r ddinas ac o’i chwmpas, gan gynnwys gwybodaeth am doiledau hygyrch a'r gwasanaethau sydd ar gael os oes gennych chi anghenion hygyrchedd.

Mae modd defnyddio gwasanaeth bygi symudedd am ddim i deithio o amgylch canol dinas Caerdydd rhwng dau leoliad wedi'u trefnu ymlaen llaw. Rhagor o wybodaeth am wasanaethau bygi symudedd

Mae'r canllawiau hyn yn dangos sut i gyrraedd yr adeiladau academaidd, y darlithfeydd, y mannau addysgu a’r neuaddau preswyl. Maen nhw’n cynnwys gwybodaeth am lefydd parcio, toiledau, mynediad gan ddefnyddio grisiau/ramp a chyfleusterau newid.

Hygyrchedd yn Arena Utilita

Mae gwybodaeth am hygyrchedd yn y lleoliadau graddio ar gael ar wefan Arena Utilita. Mae’r canlynol ar gael yn yr arena:

  • cyfleusterau preifat nad oes angen eu cadw ymlaen llaw ar gyfer newid a bwydo babanod
  • ystafell dawel i’r gwesteion hynny y mae angen amser i ffwrdd o dorfeydd a sŵn arnyn nhw
  • sgrîn yn y cyntedd a fydd yn ffrydio’r seremoni raddio’n fyw ar gyfer y gwesteion hynny nad ydyn nhw’n gallu aros yn eu seddi yn yr arena am gyfnod hir o amser
  • dyfeisiau dolen sain – mae modd casglu’r rhain o’r ddesg yn y dderbynfa a’u dychwelyd yma (mae angen blaendal)

Rhagor o wybodaeth

Hygyrchedd ym Mhrifysgol Caerdydd

Mae'r Prif Adeilad a Chanolfan Bywyd y Myfyrwyr yn hawdd eu cyrraedd. Dyma gyfarwyddiadau ar gyfer cyrraedd Prifysgol Caerdydd ar fws, ar drên, mewn car neu ar awyren.

Rydyn ni’n gwella ac yn addasu ein hadeiladau’n barhaus er mwyn eu gwneud yn fwy hygyrch. Rhagor o wybodaeth am yr adeiladau y byddwch chi’n ymweld â nhw

Canolfan Bywyd y Myfyrwyr

Mae’r canlynol ar gael yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr, sef y lleoliad ar gyfer casglu eich gwisg graddio a thynnu eich lluniau:

  • ystafell bwydo ar y fron (ystafell 2.27)
  • ystafelloedd tawel i raddedigion a gwesteion ar lawr 4 (ystafelloedd 4.12 a 4.13) – gofynnwch i aelod o’r staff ddangos y ffordd i chi

Gweld ar AccessAble

Y Prif Adeilad

Yn y Prif Adeilad, sef y lleoliad ar gyfer y dathliadau, gall pobl anabl gyrraedd derbyniadau’r ysgolion academaidd drwy Oriel Viriamu Jones.

Gweld ar AccessAble

Cysylltwch â ni

Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch chi am deithio, llythyrau ymwelydd, ymweld â Chaerdydd, parcio ceir, opsiynau o ran llety a hygyrchedd, cysylltwch â ni.

Myfyrwyr israddedig

Myfyrwyr ôl-raddedig