Ewch i’r prif gynnwys

Cofrestru a chadw eich tocynnau

Diweddarwyd: 25/03/2025 14:58

Gwybodaeth am sut i gofrestru ar gyfer y Seremoni Raddio a chadw tocynnau.

Bydd gwahoddiadau graddio yn cael eu hanfon drwy e-bost ym mis Ebrill, pan fydd modd trefnu’r tocynnau. Cewch drefnu eich archeb tan ddydd Mawrth 24 Mehefin 2025 am 23:59 GMT.

Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y seremoni raddio, mae’n rhaid ichi gwblhau eich cwrs yn llwyddiannus a thalu’r holl ffioedd a dyledion sy’n weddill i’r Brifysgol cyn dyddiad eich seremoni.

Rhowch wybod inni a fyddwch chi’n dod i’r Seremoni

Mae’n rhaid ichi gadarnhau a fyddwch chi’n dod neu beidio, gan roi gwybod am eich gofynion a gofyn am unrhyw addasiadau rhesymol er mwyn inni allu cynllunio’n briodol.

Rydych chi’n cofrestru eich presenoldeb gan ddefnyddio SIMS Online. Ceir manylion am sut i wneud hyn yn e-bost eich gwahoddiad.

Byddwch chi’n cael e-bost sy’n cadarnhau eich bwriad i ddod i’r Seremoni pan fyddwch chi wedi cwblhau’r broses gofrestru.

Cadw eich tocynnau

Mae angen tocyn ar raddedigion a gwesteion i fynd i seremoni raddio Ysgol yn Arena Utilita a'i derbyniad yng Ngerddi Graddio’r. Mae'r un tocyn yn cael ei ddefnyddio i fynd i mewn i'r ddau ddigwyddiad.

Marston Events yw ein partner tocynnau. Bydd gofyn ichi ddefnyddio eich rhif adnabod myfyriwr i ddefnyddio'r system docynnau lle cewch drefnu:

  • eich tocyn
  • dau docyn i westeion yn rhad ac am ddim
  • tri thocyn ychwanegol i westeion am £30 yr un.

Mae’n rhaid i blant dros 2 oed gael tocynnau ar gyfer seremonïau a derbyniadau ysgol, a gwaherddir anifeiliaid anwes.

Archebwch docynnau

Tocynnau digidol

Caiff graddedigion eu tocynnau digidol drwy e-bost ym mis Gorffennaf. Os nad ydych chi wedi cael eich tocynnau 5 diwrnod gwaith cyn y seremoni, neu os oes problemau o ran dod o hyd iddyn nhw, cysylltwch â Marston Events. Rydyn ni’n argymell lawrlwytho’r tocynnau ymlaen llaw er mwyn osgoi problemau ar y diwrnod o ran Wi-Fi.

Mae’r holl seddi’n cael eu rhannu ymlaen llaw, a bydd y manylion ar y tocynnau digidol. Oherwydd nifer yr ymwelwyr yn y Seremoni Raddio, ni ellir newid y seddi ac ni ddylid rhannu tocynnau.

Dylai pob deiliad tocyn gadw at y mesurau diogelwch llym sydd ar waith ym mhob un o leoliadau’r Seremonïau Graddio.

Wrth gyrraedd Utilita Arena, sylwer y bydd bagiau yn destun chwiliad. Ni chaniateir cadeiriau gwthio yn yr arena, ond mae parc bygis ar gael. Rhagor o wybodaeth am Arena Utilita.

Darllediadau byw

I unrhyw un sy'n methu â dod i’r seremonïau graddio, byddan nhw’n cael eu darlledu'n fyw ar-lein ac yn Undeb y Myfyrwyr. Yr wythnos cyn graddio, bydd ein hamserlen seremoni yn rhoi dolenni YouTube a Weibo ar gyfer y darllediadau byw.

Methu mynd

Rydyn ni ond yn argymell ichi fynd i’r Seremoni Raddio os ydych chi wedi cwblhau eich cwrs. Os ydych chi wedi cadw eich lle ond heb lwyddo yn eich cwrs ac mae’n rhaid ichi ailsefyll arholiadau neu rydych chi yn eich blwyddyn olaf, cysylltwch â ni i drafod eich amgylchiadau ac ad-daliadau posibl.

Os ydych chi’n wynebu amgylchiadau personol difrifol cyn neu yn ystod wythnos y Seremonïau Graddio, efallai y byddwch chi’n gymwys i gael ad-daliad cost eich gŵn yn ogystal ag unrhyw docynnau ychwanegol rydych chi wedi'u prynu.

I fod yn gymwys am ad-daliad, mae’n rhaid ichi roi gwybodaeth am eich amgylchiadau a dangos eu bod nhw’n ddifrifol/eithriadol, nad oedd modd eu rhagweld na’u hosgoi; a’u bod wedi digwydd yn agos at amser y Seremoni Raddio, neu gallwch chi ddangos bod yr amgylchiadau wedi parhau i gael effaith ar eich gallu i fynd i’r Seremoni Raddio.

Cysylltwch â ni erbyn dydd Gwener 19 Gorffennaf, 23:59 GMT i ofyn am ad-daliad, e-bostiwch registrysupport@caerdydd.ac.uk

Cysylltu â ni

Cysylltwch â Marston Events os oes gennych chi gwestiynau am drefnu tocynnau.

Cysylltwch os oes gennych chi gwestiynau am gofrestru ar gyfer y Seremoni Raddio neu eich gwahoddiad.

Myfyrwyr israddedig

Myfyrwyr ôl-raddedig