Ewch i’r prif gynnwys

Dyddiadau, amseroedd a lleoliadau

Diweddarwyd: 28/03/2025 14:48

Y cyfan sydd angen i chi ei wybod am drefniadau Graddio 2025.

Yn ystod eich Graddio, byddwch chi’n cael cyfleoedd ffurfiol ac anffurfiol i ddathlu eich cyflawniadau anhygoel gyda’ch gwesteion, graddedigion eraill, staff y Brifysgol a Chymrodyr Anrhydeddus.

Mae ein rownd gyntaf o wahoddiadau Graddio wedi'u hanfon. Cysylltwch â ni os na fyddwch yn derbyn eich gwahoddiad erbyn diwedd mis Ebrill.

Ynglŷn â'ch diwrnod

Gwybodaeth am yr hyn y gallwch chi ei ddisgwyl a phethau i’w hystyried, a hynny er mwyn sicrhau eich bod yn gwneud y gorau o’ch diwrnod.

I fod yn gymwys i fynychu eich Gaddio, mae rhaid i chi gwblhau eich cwrs yn llwyddiannus cyn eich dyddiad Graddio a talu eich ffioedd ac unrhyw ddyledion sydd arnoch chi i’r Brifysgol.

Digwyddiadau dathlu yw seremonïau. Yn y rhain, rydyn ni’n cydnabod eich cyflawniadau’n ffurfiol yng nghwmni graddedigion eraill, eich gwesteion, y staff, cyn-fyfyrwyr a Chymrodyr Anrhydeddus.

Beth mae angen i chi ei wybod am seremonïau:

  • byddan nhw’n cael eu cynnal yn Utilita Arena
  • mae disgwyl iddyn nhw bara 1 awr a 30 munud
  • mae’n rhaid i’r graddedigion a’r gwesteion gyrraedd 30 munud cyn yr amser dechrau (gweler y manylion isod)
  • mae'n cymryd 20-30 munud i gerdded o’r Rhodfa'r Brenin Edward VII (yn agos at Adeilad Morgannwg) i Arena Utilita
  • mae tocynnau’n cynnwys mynediad i'r seremoni a’r derbyniad cysylltiedig
  • mae’n rhaid dangos tocyn wrth fynd i mewn i Arena Utilita – dim ond y gwesteion hynny â thocyn dilys fydd yn cael mynd i mewn, a hynny ar yr amser a nodwyd ar eu tocyn
  • bydd gwiriadau diogelwch llym a chwiliadau yn cael eu cynnal
  • os ydych yn dod â phlant, byddwch yn ymwybodol nad oes unrhyw gyfleusterau gofal plant yn Utilita Arena ac na chaniateir pramiau a chadeiriau gwthio ond y gellir eu storio'n ddiogel cyn mynediad
  • mae croeso i ymwelwyr heb docyn wylio’r seremoni’n fyw ar YouTube, ar Weibo neu yn Undeb y Myfyrwyr
  • bydd dolenni YouTube a Weibo i wylio darllediadau byw yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn y seremon
  • bydd isdeitlau Saesneg awtomatig a gynhyrchir gan Google ar gael yn ystod y seremoni. Gall yr isdeitlau hyn gynnwys camgymeriadau a byddant yn cael eu cywiro ar ôl y seremoni.

Bydd y Llw Hippocrataidd yn cael ei ddarllen yn ein seremonïau ar gyfer Gofal Iechyd, Meddygaeth, Deintyddiaeth, Fferylliaeth ac Optometreg.

Mae derbyniadau’r Ysgolion yn rhoi cyfle i chi ddathlu a hel atgofion gyda graddedigion eraill, eich gwesteion a’r staff.

Ewch ati i godi gwydryn o prosecco neu ddiod feddal a chynnig llwncdestun i’ch cyflawniadau yn ein Gerddi Graddio, lle bydd bariau, awyrgylch arbennig ac amrywiaeth o gefndiroedd dathliadol i dynnu lluniau yn eu herbyn ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol.

Beth mae angen i chi ei wybod am dderbyniadau’r Ysgolion:

  • maen nhw’n cael eu cynnal yng Ngerddi Graddio
  • mae tocynnau’n cynnwys mynediad i dderbyniad yr Ysgol
  • mae’n rhaid dangos tocyn wrth fynd i mewn i’r Gerddi Graddio
  • ni fyddwch chi’n gallu treulio mwy nag awr yn y derbyniad – a fyddech chi cystal â pharchu’r lwfans amser hwn er mwyn galluogi graddedigion eraill a’u gwesteion i ymuno â’r derbyniad
  • bydd gwiriadau diogelwch llym a chwiliadau yn cael eu cynnal

At ddibenion hyrwyddo ac archifo, bydd lluniau’n cael eu tynnu drwy gydol y digwyddiad Graddio. Bydd hefyd yn cael ei ffilmio.

Mae delweddau sain a gweledol o'r seremoni ar gael i'r cyhoedd. Mae graddedigion, gwesteion, a staff yn cydsynio i'r cyhoeddiad hwn drwy gymryd rhan yn y digwyddiad hwn.

Bydd y lluniau a’r ffilmiau’n debygol o ymddangos ar ein gwefan a’r cyfryngau cymdeithasol.

Dysgwch fwy am rannu eich profiad Graddio

Pan fyddwch chi’n mynd i mewn i'n lleoliadau ar gyfer seremonïau graddio (Canolfan Bywyd y Myfyrwyr, Utilita Arena a’r Gerddi Graddio) bydd gwiriadau a chwiliadau llym ar waith er diogelwch.

Dyma ofyn i chi beidio â dod ag unrhyw beth gyda chi oni bai bod gwir ei angen arnoch chi. Os oes angen i chi ddod â bag, dim ond un bag bach fesul person y cewch chi ddod â chi. Ddylai’r bag ddim fod yn fwy na maint A4 (29x21x15cm). Chewch chi ddim dod â bagiau neu gynwysyddion sy'n fwy na'r maint hwn i mewn i'r lleoliadau. Does dim cyfleusterau i storio bagiau neu eitemau sydd wedi’u gwahardd yn lleoliadau’r seremonïau graddio.

Chewch chi ddim dod â’r eitemau canlynol i leoliadau’r seremonïau graddio:

  • arfau o unrhyw fath (mae hyn yn cynnwys cyllyll/teclynnau)
  • cyffuriau a sylweddau anghyfreithlon, gan gynnwys hylif heb ei farcio neu boteli meddyginiaeth pils. Cewch ddod â meddyginiaethau cyfreithiol ar bresgripsiwn os ydyn nhw mewn potel/cynhwysydd presgripsiwn gyda label gan y fferyllfa sy'n cynnwys enw'r unigolyn - mae’n bosibl y cewch eich gofyn i ddilysu pwy ydych chi felly dewch â dogfen adnabod ddilys Caiff unrhyw feddyginiaethau eraill eu hystyried fesul achos yn y lleoliad
  • baneri, placardiau, arwyddion, eitemau o ddillad/ategolion sy'n cynnwys unrhyw negeseuon, symbolau, logos y byddai modd eu hystyried yn wleidyddol, yn rhagfarnllyd, yn fain neu'n ddadleuol
  • alcohol, caniau a photeli. Chewch chi ddim dod â photeli gwydr i mewn i'r lleoliad
  • bwyd neu ddiod (oni bai bod ei angen oherwydd cyflwr sydd eisoes yn bodoli ac mae gennych chi dystiolaeth feddygol i gefnogi hyn)
  • pennau neu declynnau pwyntio laser
  • camerâu (gan gynnwys camerâu proffesiynol, llechi, offer camera, trybeddau a standiau, lensys a ffyn hunluniau)
  • tân gwyllt, offer cynnau tân a fflamau noeth
  • offer recordio sain neu ddyfeisiau gwneud sŵn
  • sglefrfyrddau a llafnau rholio, byrddau hofran, sgwteri, beiciau, a cherbydau modur personol eraill â phŵer neu heb bŵer
  • anifeiliaid sydd ddim yn rhai gwasanaethu neu anifeiliaid sydd ddim yn cael eu defnyddio gan y rhai ag anabledd
  • deunyddiau deisyfu neu farchnata anawdurdodedig (e.e. biliau llaw, taflenni, sticeri)
  • unrhyw eitemau a gaiff eu hystyried yn beryglus gan reolwr dynodedig y lleoliad/digwyddiad
  • pob system awyr di-griw (UAS) neu ddrôn heb eu cymeradwyo, oni bai eu bod wedi'u hawdurdodi'n benodol yn unol â Pholisi Systemau Awyrennau Di-griw LNE

Mae llawer iawn o amser, gofal a sylw wedi cael eu neilltuo i’r Seremonïau Graddio, a dyma obeithio y byddwch chi’n mwynhau eich diwrnod.

Rydyn ni’n gwybod y gall rhywbeth ddigwydd yn achlysurol iawn ar ôl graddio y byddwch chi’n dymuno cwyno amdano. Gall graddedigion wneud cwyn ffurfiol drwy e-bostio: studentcomplaints@caerdydd.ac.uk. Rhaid i chi lenwi ffurflen Cwynion Myfyrwyr, gan egluro eich pryderon a darparu’r holl dystiolaeth a gwybodaeth berthnasol.

Mae rhagor o wybodaeth am y Weithdrefn Gwyno i Fyfyrwyr a'r ffurflen berthnasol ar gael ar fewnrwyd y myfyrwyr.

Rhaid i gwynion gyrraedd mewnflwch studentcomplaints@caerdydd.ac.uk cyn pen 28 diwrnod i ddyddiad eich seremoni raddio.  Bydd cwynion hwyr yn cael eu hystyried mewn sefyllfaoedd eithriadol yn unig a lle gall myfyriwr graddedig ddangos nad oedd modd iddyn nhw gyflwyno cwyn o fewn y cyfnod arferol o 28 diwrnod.  Os na allwch chi gyrchu’r ffurflen Cwynion Myfyrwyr, e-bostiwch studentcomplaints@caerdydd.ac.uk i ofyn amdani.

Mae cyngor ac arweiniad diduedd ar brosesau’r Brifysgol, gan gynnwys cwynion ar gael gan Gyngor i Fyfyrwyr yn Undeb y Myfyrwyr.

Dyddiadau ac amseroedd

Gall eich derbyniad ysgol gael ei gynnal cyn neu ar ôl eich seremoni fel y nodir isod.

Dydd Llun, 14 Gorffennaf

YsgolAmser dechrau y seremoniAmser dechrau  derbyniad yr ysgolion
Y Gwyddorau Gofal Iechyd 1*09:3011:30
Meddygaeth 12:3014:30
Y Gwyddorau Gofal Iechyd 2*

Optometreg a Gwyddorau’r  Golwg
15:3011:30

Dydd Mawrth, 15 Gorffennaf

YsgolAmser dechrau y seremoniAmser dechrau  derbyniad yr ysgolion
Fferylliaeth a’r Gwyddorau Fferyllol

Seicoleg
09:3011:30
Y Biowyddorau

Deintyddiaeth
12:3014:30
Daearyddiaeth a Chynllunio
 
Y Gwyddorau Cymdeithasol
15:3012:45

Dydd Mercher, 16 Gorffennaf

YsgolAmser dechrau y seremoniAmser dechrau  derbyniad yr ysgolion
Y Gyfraith a Gwleidyddiaeth 1*

Y Gymraeg
09:3011:30
Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant

Cerddoriaeth
12:3014:30
Y Gyfraith a Gwleidyddiaeth 2*15:3011:30

Dydd Iau, 17 Gorffennaf

YsgolAmser dechrau y seremoniAmser dechrau  derbyniad yr ysgolion
Busnes 1*

Hanes, Archaeoleg a Chrefydd
09:3011:30
Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth

Ieithoedd Modern
12:3014:30
Busnes 2* 15:3011:30

Dydd Gwener, 18 Gorffennaf

YsgolAmser dechrau y seremoniAmser dechrau  derbyniad yr ysgolion
Cyfrifiadureg a Gwybodeg

Mathemateg
09:3011:30
Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd

Peirianneg
12:3014:30
Pensaernïaeth

Cemeg

Ffiseg a Seryddiaeth
15:3012:45

Telerau ac Amodau

Os bydd gofyn i Brifysgol Caerdydd ('Y Brifysgol') ganslo, newid neu aildrefnu seremonïau graddio a digwyddiadu, bydd y Brifysgol yn ceisio cyfathrebu'r wybodaeth hon i fyfyrwyr, drwy ebost neu ar y wefan hon, gyda chymaint o rybudd â phosibl.

Os caiff y seremoni raddio a digwyddiadu eu chanslo neu ei gohirio, neu os caiff y seremoni ei haildrefnu (i gynnwys dyddiad, amser a/neu leoliad) oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth y Brifysgol, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i dân, ffrwydrad, gweithred derfysgol (neu fygythiad o weithred derfysgol), gweithred gan Dduw, pandemig, cyfnod o alaru cenedlaethol (unrhyw aelod o'r teulu brenhinol), trychinebau naturiol, argyfwng sifil neu aflonyddwch sifil, gweithredoedd diwydiannol neu anghydfod sy'n ymwneud â Phrifysgol Caerdydd, cofrestru myfyrwyr y tu hwnt i’r nifer o leoedd sydd ar gael, neu unrhyw ddigwyddiad arall sy'n golygu nad yw'r seremonïau graddio a digwyddiadau yn ddiogel i'w cynnal neu unrhyw weithred neu ddigwyddiad arall y tu hwnt i reolaeth y Brifysgol. Ni fydd y Brifysgol yn atebol am unrhyw golledion uniongyrchol neu golledion eraill yr eir iddynt gan y graddedigion a'u gwesteion.

Cysylltwch â ni

Cysylltwch i gael rhagor o wybodaeth am ddyddiadau, amseroedd a lleoliadau.

Myfyrwyr israddedig

Myfyrwyr ôl-raddedig