Ewch i’r prif gynnwys

Telerau ac amodau

Diweddarwyd: 17/04/2025 14:57

Canllawiau ar beth i'w wneud os nad ydych chi’n gallu dod, eisiau holi am ad-daliad, neu os hoffech chi wneud cwyn.

Cymhwysedd i raddio

I fod yn gymwys i fynychu eich Gaddio, mae rhaid i chi gwblhau eich cwrs yn llwyddiannus cyn eich dyddiad Graddio a talu eich ffioedd ac unrhyw ddyledion sydd arnoch chi i’r Brifysgol.

Byddwch yn ymwybodol os oes gennych unrhyw ddyled addysgol eithriadol sy'n fwy na £30 na chewch eich cynnwys yn y rhestrau cyflwyno ar gyfer y Pwyllgor Gwobrau a Chynnydd nes bod y ddyled wedi ei thalu.

Polisi canslo

Rydyn ni’n cydnabod efallai na fydd rhai graddedigion neu westeion yn gallu dod i’w Seremoni Raddio fel y cynlluniwyd. Gall hyn fod am y rhesymau canlynol:

  1. rydych chi'n dal i aros am eich marciau terfynol ac heb gwblhau eich cwrs yn llwyddiannus eto. rydych chi wedi cadw lle ond heb fod yn llwyddiannus yn eich cwrs ac mae gofyn i chi ailsefyll arholiadau neu'ch blwyddyn olaf
  2. eich bod chi neu'ch gwestai yn profi amgylchiadau personol difrifol yn y cyfnod cyn neu yn ystod yr wythnos Graddio

Os byddwch yn profi amgylchiadau personol difrifol yn arwain at neu yn ystod yr wythnos Raddio, efallai y byddwch yn gymwys i gael ad-daliad o gost eich gŵn ac unrhyw docynnau ychwanegol rydych wedi'u prynu. I fod yn gymwys am ad-daliad, mae’n rhaid ichi roi gwybodaeth am eich amgylchiadau a dangos eu bod nhw’n ddifrifol/eithriadol, nad oedd modd eu rhagweld na’u hosgoi; a’u bod wedi digwydd yn agos at amser y Seremoni Raddio, neu gallwch chi ddangos bod yr amgylchiadau wedi parhau i gael effaith ar eich gallu i fynd i’r Seremoni Raddio.

Yn y fath sefyllfaoedd, efallai y byddwch chi’n gymwys i gael ad-daliad am gost eich gwisg graddio ac unrhyw docynnau ychwanegol  rydych chi wedi eu prynu.

Cais am ad-daliad

I wneud cais am ad-daliad, cysylltwch â ni erbyn dydd Gwener 18 Gorffennaf, 23:59 BST, e-bostiwch registrysupport@caerdydd.ac.uk gyda manylion eich amgylchiadau a sut maen nhw’n ddifrifol/eithriadol, annisgwyl neu’n amhosibl eu hosgoi; a’u bod yn agos at eich Seremoni Raddio, neu fod yr amgylchiadau sy'n arwain at eich Seremoni Raddio yn parhau i effeithio eich gallu i ddod i’ch seremoni.

Amgylchiadau annisgwyl

Os bydd gofyn i Brifysgol Caerdydd ('Y Brifysgol') ganslo, newid neu aildrefnu seremonïau graddio a digwyddiadu, bydd y Brifysgol yn ceisio cyfathrebu'r wybodaeth hon i fyfyrwyr, drwy ebost neu ar y wefan hon, gyda chymaint o rybudd â phosibl.

Os caiff y seremoni raddio a digwyddiadu eu chanslo neu ei gohirio, neu os caiff y seremoni ei haildrefnu (i gynnwys dyddiad, amser a/neu leoliad) oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth y Brifysgol, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i dân, ffrwydrad, gweithred derfysgol (neu fygythiad o weithred derfysgol), gweithred gan Dduw, pandemig, cyfnod o alaru cenedlaethol (unrhyw aelod o'r teulu brenhinol), trychinebau naturiol, argyfwng sifil neu aflonyddwch sifil, gweithredoedd diwydiannol neu anghydfod sy'n ymwneud â Phrifysgol Caerdydd, cofrestru myfyrwyr y tu hwnt i’r nifer o leoedd sydd ar gael, neu unrhyw ddigwyddiad arall sy'n golygu nad yw'r seremonïau graddio a digwyddiadau yn ddiogel i'w cynnal neu unrhyw weithred neu ddigwyddiad arall y tu hwnt i reolaeth y Brifysgol. Ni fydd y Brifysgol yn atebol am unrhyw golledion uniongyrchol neu golledion eraill yr eir iddynt gan y graddedigion a'u gwesteion.

At ddibenion hyrwyddo ac archifo, bydd lluniau’n cael eu tynnu drwy gydol y digwyddiad Graddio. Bydd hefyd yn cael ei ffilmio.

Mae delweddau sain a gweledol o'r seremoni ar gael i'r cyhoedd. Mae graddedigion, gwesteion, a staff yn cydsynio i'r cyhoeddiad hwn drwy gymryd rhan yn y digwyddiad hwn.

Bydd y lluniau a’r ffilmiau’n debygol o ymddangos ar ein gwefan a’r cyfryngau cymdeithasol.

Gwirio a chwilio bagiau er diogelwch

Pan fyddwch chi’n mynd i mewn i'n lleoliadau ar gyfer seremonïau graddio (Canolfan Bywyd y Myfyrwyr, Utilita Arena a’r Gerddi Graddio) bydd gwiriadau a chwiliadau llym ar waith er diogelwch.

Dyma ofyn i chi beidio â dod ag unrhyw beth gyda chi oni bai bod gwir ei angen arnoch chi. Os oes angen i chi ddod â bag, dim ond un bag bach fesul person y cewch chi ddod â chi. Ddylai’r bag ddim fod yn fwy na maint A4 (29x21x15cm). Chewch chi ddim dod â bagiau neu gynwysyddion sy'n fwy na'r maint hwn i mewn i'r lleoliadau. Does dim cyfleusterau i storio bagiau neu eitemau sydd wedi’u gwahardd yn lleoliadau’r seremonïau graddio.

Chewch chi ddim dod â’r eitemau canlynol i leoliadau’r seremonïau graddio:

  • arfau o unrhyw fath (mae hyn yn cynnwys cyllyll/teclynnau)
  • cyffuriau a sylweddau anghyfreithlon, gan gynnwys hylif heb ei farcio neu boteli meddyginiaeth pils. Cewch ddod â meddyginiaethau cyfreithiol ar bresgripsiwn os ydyn nhw mewn potel/cynhwysydd presgripsiwn gyda label gan y fferyllfa sy'n cynnwys enw'r unigolyn - mae’n bosibl y cewch eich gofyn i ddilysu pwy ydych chi felly dewch â dogfen adnabod ddilys Caiff unrhyw feddyginiaethau eraill eu hystyried fesul achos yn y lleoliad
  • baneri, placardiau, arwyddion, eitemau o ddillad/ategolion sy'n cynnwys unrhyw negeseuon, symbolau, logos y byddai modd eu hystyried yn wleidyddol, yn rhagfarnllyd, yn fain neu'n ddadleuol
  • alcohol, caniau a photeli. Chewch chi ddim dod â photeli gwydr i mewn i'r lleoliad
  • bwyd neu ddiod (oni bai bod ei angen oherwydd cyflwr sydd eisoes yn bodoli ac mae gennych chi dystiolaeth feddygol i gefnogi hyn)
  • pennau neu declynnau pwyntio laser
  • camerâu (gan gynnwys camerâu proffesiynol, llechi, offer camera, trybeddau a standiau, lensys a ffyn hunluniau)
  • tân gwyllt, offer cynnau tân a fflamau noeth
  • offer recordio sain neu ddyfeisiau gwneud sŵn
  • sglefrfyrddau a llafnau rholio, byrddau hofran, sgwteri, beiciau, a cherbydau modur personol eraill â phŵer neu heb bŵer
  • anifeiliaid sydd ddim yn rhai gwasanaethu neu anifeiliaid sydd ddim yn cael eu defnyddio gan y rhai ag anabledd
  • deunyddiau deisyfu neu farchnata anawdurdodedig (e.e. biliau llaw, taflenni, sticeri)
  • unrhyw eitemau a gaiff eu hystyried yn beryglus gan reolwr dynodedig y lleoliad/digwyddiad
  • pob system awyr di-griw (UAS) neu ddrôn heb eu cymeradwyo, oni bai eu bod wedi'u hawdurdodi'n benodol yn unol â Pholisi Systemau Awyrennau Di-griw LNE

Gwneud cwyn

Er ein bod ni’n gobeithio y bydd popeth yn mynd yn iawn, rydyn ni’n gwybod bod problemau’n gallu codi. Os oes angen i chi wneud cwyn ffurfiol am eich Seremoni Raddio, e-bostiwchstudentcomplaints@caerdydd.ac.uk gyda ffurflen Gwyno Myfyrwyr wedi'i llenwi. Yn eich e-bost, esboniwch eich pryderon a nodwch unrhyw dystiolaeth a gwybodaeth berthnasol.

Mae’r Weithdrefn Gwyno i Fyfyrwyr a'r ffurflen gwyno ar gael ar fewnrwyd y myfyrwyr a gael i fyfyrwyr eu cyrchu unrhyw bryd.

Rhaid i gwynion gyrraedd mewnflwch studentcomplaints@caerdydd.ac.uk cyn pen 28 diwrnod ar ôl dyddiad eich Seremoni Raddio. Bydd cwynion hwyr yn cael eu hystyried mewn sefyllfaoedd eithriadol yn unig, a lle gallwch ddangos nad oedd modd i chi gyflwyno cwyn o yn ystod y cyfnod arferol o 28 diwrnod. Os na allwch chi gyrchu’r ffurflen Cwynion Myfyrwyr, e-bostiwch studentcomplaints@caerdydd.ac.uk i ofyn amdani.

Gallwch gysylltu â Cyngor i Fyfyrwyr yn Undeb y Myfyrwyr am gyngor ac arweiniad diduedd ar brosesau'r Brifysgol, gan gynnwys cwynion.