Lliwiau eich gŵn
Diweddarwyd: 25/03/2025 13:45
Bydd lliwiau eich gŵn a'r cwfl yn dibynnu ar lefel eich gradd.

Diploma
Diploma Addysg Uwch, Diploma Graddedig
- Gŵn du israddedigion
- Cwfl coch Caerdydd ar batrwm Rhydychen a leinin o sidan glas golau
- Cap sgwâr du cyffredin

Tystysgrif
Tystysgrif Addysg Uwch, Tystysgrif Raddedig, Tystysgrif Ôl-raddedig, Tystysgrif Addysg Ôl-raddedig
- Gŵn du israddedigion, cwfl coch Caerdydd
- Patrwm Rhydychen a leinin o sidan llwydfelyn
- Cap sgwâr du cyffredin

Baglor
BA, BArch, BD, BEd, BEng, BSc, BScEcon, BMedSc, BMid, BMus, BN, BSD, BTh, LLB
- Gŵn du israddedigion
- Cwfl coch Caerdydd ar batrwm Rhydychen a leinin o sidan gwyn meddal.
- Cap sgwâr du cyffredin

Baglor Estynedig a Meistr Cyfunol
BDS, MBBCh, MArch, MChem, MEng, MESci, MMath, MPharm, MPhys
- Gŵn du israddedigion
- Cwfl coch Caerdydd ar batrwm Rhydychen a leinin o sidan gwyn meddal ac iddo ymyl o las brenhinol
- Cap sgwâr du cyffredin

Meistr a Addysgir
LLM, MA, MBA, MClinDent, MEd, MEP, MMus, MPA, MPH, MSc, MScD,MScD drwy ymchwil, MScEcon, MTh
- Gŵn du Meistr
- Cwfl coch Caerdydd ar batrwm Rhydychen a leinin o sidan glas brenhinol
- Cap sgwâr du cyffredin

Meistr Ymchwil
MPhil, MRes
- Gŵn du Meistr.
- Cwfl coch Caerdydd ar batrwm Rhydychen a leinin o sidan lilac.
- Cap sgwâr du cyffredin

Doethuriaeth
PhD, DAHP, DClinPsy, DDS, DEdPsy, DHS, DNurs, DNursSci, DSW, EdD, EngD, MCh, MD, SPPD
- Gŵn coch Caerdydd a llewys llawn a ffesinau a leinin llawes lliw gwyrdd y goedwig ag ymyl llwyd arian
- Cwfl coch Caerdydd ar batrwm Rhydychen a leinin o sidan gwyrdd y goedwig ac iddo ymyl o lwyd arian
- Boned felfed ddu â thasel sidan du ac arian

Doethuriaeth Uwch
DD, DDSc, DLitt, DMus, DSc, DScEcon, LLD
- Gŵn coch Caerdydd â llewys llawn a ffesinau a leinin llawes lliw aur golau ag ymyl llwyd arian
- Cwfl coch Caerdydd ar batrwm Rhydychen a leinin o sidan aur golau ac iddo ymyl o lwyd arian
- Boned felfed ddu â thasel sidan du ac arian
Mae'n ofynnol i bob myfyriwr wisgo'n smart a gwisgo gwisg academaidd ar gyfer graddio.