Archebwch ffotograffi
Diweddarwyd: 25/03/2025 13:47
Ar ôl y diwrnod mawr, gallwch ail-fyw profiad eich Graddio gyda lluniau proffesiynol.
Bydd ein partner Tempest Photography yn darparu ffotograffiaeth stiwdio swyddogol i raddedigion a'u gwesteion yn y Ganolfan Bywyd Myfyrwyr (lloriau tri a phedwar).
Rydym yn eich cynghori'n gryf i archebu'ch ffotograffiaeth cyn i chi Raddio. Bydd hyn yn gwarantu y bydd eich llun yn cael ei dynnu a bydd yn lleihau amseroedd ciw.
Ewch i wefan Tempest Photography i weld opsiynau a phrisiau cynnyrch, bydd angen i chi ddewis opsiwn Heb gael eich seremoni raddio eto? a nodwch Brifysgol Caerdydd a'ch dyddiad graddio i weld y pecynnau sydd ar gael.
Disgwyliwn y bydd sesiynau ffotograffiaeth ar gael i'w harchebu ar ddiwrnod eich seremoni er bod amseroedd aros yn debygol o fod yn hirach.
Gallwch weld rhagolwg a phrynu ffotograffau ar ôl Graddio ar wefan Tempest Photography.
Ffotograffiaeth, pethau i'w wneud a pheidio â'i wneud
Ni all ein ffotograffwyr reoli'r tywydd, eich dewis o esgidiau, colledion damweiniol, neu ddiwrnod gwallt gwael, ond gallwn roi rhywfaint o bethau i'w gwneud a pheth i'w hosgoi a fydd yn sicrhau eich bod yn cael y profiad stiwdio mwyaf llwyddiannus.
Gwnewch:
- archebwch eich slot amser stiwdio ar gyfer yn fuan ar ôl i chi gasglu eich gŵn a chyn i chi ddechrau eich dathliadau
- cyrraedd ar amser
- trefnwch i bawb sy'n cael tynnu eu llun gyrraedd gyda'i gilydd
- sicrhewch fod eich gwallt a'ch colur fel y dymunwch cyn cyrraedd
- bod yn ystyriol o raddedigion, gwesteion a staff eraill a'u trin â pharch.
Peidiwch â:
- dod â mwy na saith o bobl i dynnu llun; mae gan y stiwdio uchafswm o saith
- poeni am gynau llithro; bydd staff yn gwirio'ch gŵn yn y stiwdio
- poeni am esgidiau, nid yw traed yn ymddangos mewn lluniau
- achosi oedi diangen i chi neu i eraill.
Cysylltwch â ni
Am ragor o wybodaeth neu gyngor ar archebu, cysylltwch â Tempest Photography
Byddwn yn dal awyrgylch #GraddCdydd ledled y campws a'r ddinas ac yn rhannu lluniau y tu ôl i'r llenni mewn cyhoeddiadau, a thrwy lygaid myfyrwyr. Ychwanegwch #GraddCdydd i'ch cyhoeddiadau a byddwn yn rhannu ein ffefrynnau. Cewch hyd i ni ar Instagram, Facebook a Twitter.